Sgwrs:Ieithoedd Brythonaidd De-orllewinol

Latest comment: 15 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros

Oes rhywun yn gwybod beth i'w wneud efo hyn? Ar y wefan yn y ddolen mae sôn am "Old Devonish" fel yr iaith Geltaidd a oedd yn cael ei siarad yn ne-orllewin Lloegr (Cernyw, Gwlad yr Haf, Dyfnaint) yn y 6ed-7fed ganrif, ond Brythoneg y de-orllewin/Hen Gernyweg yw'r enw arferol am y dafodiaith Frythonig honno. Mae'r "Ddyfneineg" fodern, sy'n cael ei hybu gan grwp bychan yn Nyfnaint, yn seiliedig bron yn gyfangwbl ar y Gernyweg adfywiedig, fel mae'r wefan ei hun yn cyfaddef. Hyd y gwn i nid yw iethegwyr Celtaidd yn defnyddio'r term "Dyfneineg". Anatiomaros 16:36, 10 Mawrth 2008 (UTC)Ateb

Nes i'r term 'Hen Ddyfneineg' (cyfranwr IP?)

Dydi'r teitl, llawer o'r erthygl ei hun a'r rhan fwyaf o'r termau sydd ynddo ddim yn gywir a dim yn gwneud synnwyr chwaith. Mae'r erthygl Saesneg ei hun, seiliedig ar wybodaeth o un wefan, yn amheus iawn yn y lle cyntaf. Mae 'na gymaint i gywirio fel mae'n anodd gwybod lle i ddechrau. Anatiomaros 17:32, 17 Rhagfyr 2008 (UTC)Ateb
Dwi wedi rhoi nodyn 'angen cywiro iaith' ar frig y dudalen. Mae'n llawn o wallau iaith yn ogystal a honiadau sy ddim yn gwneud synnwyr neu sy'n amheus. Anatiomaros 22:07, 24 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Ieithoedd Brythonaidd De-orllewinol".