Sgwrs:Llyfrgell y Gyngres

Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Ben Bore in topic Yr enw Saesneg

Yr enw Saesneg golygu

Mae mwyafrif y wicis eraill yn defnyddio enwau yn eu hieithoedd nhw. Pam ydym ni'n defnyddio'r Saesneg (yn unig)? 'Llyfrgell y Gyngres' yw'r enw yn Gymraeg (gw. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Aberystwyth ayyb). Dwi'n cynnig symud hyn i Llyfrgell y Gyngres. Anatiomaros 21:20, 28 Mehefin 2010 (UTC)Ateb

Er nad oes barn cryf ofnadwy gyda fi ar hyn, yn bersonol dw i'n credu dylwn ond rhoi enw Cymraeg i erthygl oes oes un swyddogol yn bodoli. O edrych ar y dolenni rhyngwici, mae amrwyiaeth mawr; rhai'n ei alw'n Library of Congress, eraill ei gyfieithu fel 'Llyfrgell y Gyngres', ac eraill fel 'Llyfrgell Cyngress yr Unol Dalethiau'. Ond dw i'n gweld bod arferiad yma ydy creu enwau Cymraeg i sefydliadau tu allan i Gymru. Efallai nad yw'n gymaint o broblem yn yr achos yma, gan y byddai pa bynnag gyfieithiad y byddwn yn ei ddewis yn reit amlwg beth ydy o, a petai rhywun yn digwydd chwilio am Library of Congress, bydd yn cael ei ail gyfeirio ta beth.--Ben Bore 12:42, 6 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Diolch am yr ymateb, Ben. Dwi'n derbyn fod dadl weithiau dros dderbyn enwau angyfiaith os ydynt yn gyfarwydd iawn (neu'n amhosibl i'w gyfieithu'n foddhaol), ond fel rheol dylem gyfieithu, dwi'n credu. Mae gennym erthygl am Llyfrgell Genedlaethol Bhutan er enghraifft a dwi ddim yn meddwl fod llawer o ddadl dros ddefnyddio 'Druk Gyelyong Pedzö' (yr enw brodorol) yn lle hynny. Prin ydy'r enghreifftiau o fersiynau Cymraeg "swyddogol" o enwau sefydliadau mewn gwledydd eraill, yn bennaf oherwydd hanes y Gymraeg sy ddim wedi mwynhau llawer o statws swyddogol ei hun, ond os ydy sefydliadau parchus fel LlGC a Phrifysgol Aber yn defnyddio 'Llyfrgell y Gyngres' mae hynny'n sail da i ni wneud yr un fath, dwi'n credu. Anatiomaros 22:41, 6 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Mi newidiaf i o rwan. Doeddwn chwaith ddim weid darllen dy sylw diwethaf ny iawn chwaith, gan feddwl dy fod yn defnyddio enghreifftiau o enwau Cymraeg y Llyfgrell Gen fel esiampl yn hytrach na'r defnydd ganddo o'r enw Llyfrgell y Gynrges! Nid dim ond ar y Wicipedia rydym yn anghyson wrth Gymreigio enw a chadw'r enw gynhenid chwaith wrth gwrs - mae gyda ni Arc de Triomphe (sydd byth yn cael ei gyfieithu) a Tŵr Eiffel.--Ben Bore 07:31, 7 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Llyfrgell y Gyngres".