Sgwrs:Lynton and Lynmouth

Latest comment: 4 o flynyddoedd yn ôl by Craigysgafn

@Llywelyn2000: Efallai dw i'n camddeall yr hyn wnest ti yn dy olygiad cyntaf. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod y cyfeiriadau data.worldbank.org yn creu nonsens. Dangosodd hwn yma boblogaeth o 374,681 ar gyfer y lle, sy'n hollol anghywir. Hefyd nid "cyfrifiad diwethaf" oedd 2017, ond amcangyfrif. Mae'n well 'da fi ddefnyddio ystadegau 2011, y cyfrifiad diwethaf go iawn. Dw i'n licio "City Population" fel ffynhonnell: mae'n dibynadwy ac yn sefydlog, ac mae'n glir yn union pa ardal rydych chi'n edrych arni.

Dw i'n cymryd y pwynt am y 2 baragraff. Sori! Ro'n i'n bwriadu dod yn ôl er mwyn ychwanegu at yr erthygl yn nes ymlaen, ond mae'n well ei wneud hyn yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach wrth gwrs! --Craigysgafn (sgwrs) 11:01, 10 Mehefin 2019 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Lynton and Lynmouth".