Sgwrs:Maes-gasglu

Latest comment: 1 mis yn ôl by Rhyswynne in topic Cynnig ailenwi'r erthygl yn Groundhopping

Cynnig ailenwi'r erthygl yn Groundhopping golygu

Dwi'n cynnig newid enw'r erthygl i Groundhoppping a newid y frawddeg agoriadol o

Mae maes-gasglu (Saesneg: Groundhopping) yn hobi sy'n golygu mynychu gemau mewn cymaint o wahanol stadia neu feysydd chwarae â phosib.

i

Mae Groundhopping yn hobi sy'n golygu mynychu gemau mewn cymaint o wahanol stadia neu feysydd chwarae â phosib. Er nad oes term cydnabyddiedig Gymraeg, mae sawl cynnig wedi bod, fel y gwelir yn yr adran isod 'Term Gymraeg'.

Oes gwrthwynebiad i hyn gan unrhyw un (yn arbennig @Stefanik) cyn i mi wneud hynny a chreu tudlennau ailgyfeirio? Rhyswynne (sgwrs) 13:19, 11 Mawrth 2024 (UTC)Ateb

dwi'n iawn 'da'r syniad, ond eisiau normaleiddio a mabwysiadu termau Cymraeg newydd. Poeni bod dim ond defnyddio 'groundhopping' yn dangos diffyg yn y Gymraeg a methiant ieithyddol. Stefanik (sgwrs) 15:13, 11 Mawrth 2024 (UTC)Ateb
Diolch. Dwi am normaleiddio termau Cymraeg bob cyfle, ond yn yr achos hwn, does dim un term sy'n agos at gael ei ddefnyddio, ddim hyd yn oed weithiau, gan unrhyw un, heblaw pan mae rhywun yn gofyn am gynnig term o dro i dro, ac yna hanner dwsin yn cael eu cynnig, a dim math o gonsensws. Hefyd, mae'r cymysgedd o wahanol dermau drwy'r erthygl yn edrych fel allbwn peiriant cyfieithu heb ei olygu (er mod i'n gwybod nad dyna yw'r achos). Petai un neu ddau derm yn ennill eu plwyf, dwi'n gaddo newid yr erthygl eto i adlewyrchu hynny. Rhyswynne (sgwrs) 15:59, 11 Mawrth 2024 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Maes-gasglu".