Sgwrs:Pen Talar

Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Pwyll in topic Rhaglen 2

Annwyl Pobol Wicipedia, croeso i chi ail-defnyddio unrhyw beth dan Creative Commons o PenTalarPedia. --Oergell 07:41, 17 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Diolch, Oergell, a phob lwc gyda'r brosiect! Anatiomaros 18:57, 21 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Wedi dechrau gyda Pen Talar ar http://de.wikipedia.org/wiki/Pen_Talar - ond 'rwy'n cael trafferth. Angen help NAWR! Diolch yn fawr.--RedDragonMachynlleth 16:52, 21 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Dwi wedi gweld yr erthygl 'de' a'r sgyrsiau. Hoffwn i fod o gymorth, ond yn anffodus dwi ddim yn medru sgwennu fawr dim yn Almaeneg, er mod i'n medru darllen rhywfaint. Mae'n biti mewn ffordd ddaru chi ddim sgwennu'r erthygl ar y Wici Saesneg i ddechrau. Pe bai'n cael ei derbyn byddai modd gyfeirio at hynny a phe bai cynnig gan rywun i'w dileu ar sail diffyg amlygrwydd a chithau'n ennill y ddadl byddai'n argyhoeddi'r Wici Almaeneg hefyd efallai. Mae'n ymddangos yn hurt i mi fod gan rai wicis fel 'en' erthyglau am gymeriadau cartŵn eilradd o gyfresi animeiddiedig anghofiedig ac eto mae rhywbeth fel hyn yn gorfod ymladd am ei einioes. Ond fel 'na mae hi. Digon tila yw record y Wici Almaeneg am barchu'r Gymraeg (gweler e.e. de:National Library of Wales a de:Caernarfon Castle!). Anatiomaros 18:55, 21 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Diolch. 'Rwy'n mynd i weithio ar erthygl Almaeneg eto bore 'ma, Anatiomaros - mi fydd erthygl ar Wici Saesneg yn dda hefyd!--RedDragonMachynlleth 08:14, 22 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Mae erthygl Pen Talar ar Wiki.de yn edrych yn well nawr. 'Rwy wedi gweithio yn galed - mi fydden nhw'n gorfod cadw yr erthygl nawr. It will be on the deletion list am saith diwrnod. Twp - ond dyna fel mae e. --RedDragonMachynlleth 15:24, 22 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Rhaglen 2 golygu

A oes modd cael rhyw fath o gwymplen ar gyfer Rhaglen 2? Un o'r rheiny y gellir Cuddio / Dangos? Ar hyn o bryd, mae'n edrych fel pe na bai unrhyw wybodaeth wedi ei gofnodi ar gyfer yr ail raglen. Pwyll 08:05, 25 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Oes, mae modd. Y rheswm cuddiais yr holl wybodaeth oedd ei bod yn rhy hir i'r erthygl; yn hytrach na disgrifio'n gryno'r rhaglen, mae rhywun wedi ysgrifennu pob dim a ddigwyddodd, ac dyw Wicipedia ddim yn derbyn hynny. Peth gwell i'w wneud yw crynhoi'r rhaglen, oherwydd os yr ydym yn rhoi "dewislen gwympo," mae'n mynd i edrych yn od iawn mewn cymhariaeth â gweddill yr erthygl. I ffwrdd â fi i'w wneud a gallwch ei drafod yma, ond mae angen cywiro'r adran ta waith. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 14:36, 25 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Dw i wedi crynhoi'r rhaglen ychydig yn well. Unrhyw wrthwynebiad fy mod i'n dileu'r hyn sydd yna nawr ac yn gosod hwn yn ei le?
Yn y rhaglen hon, gwelwn Defi yn 17 oed ac yn llawer mwy gwleidyddol. Mae’n gwrthwynebu i Arwisgiad y Tywysog Siarl ac yn cefnogi mudiadau cenedlaetholgar mwy milwriaethus megis y FWA. Mae Defi hefyd yn cwrdd â chymeriad Awen am y tro cyntaf. Maent yn mynychu’r un ysgol ac mae Defi’n ysgrifennu cerdd iddi. Rhydd y gerdd yn ei desg yn yr ysgol ond wrth iddo adael caiff ei ddal gan yr athro Maldwyn “Brwmstan” Pritchard. Trannoeth, derbynia Awen y llythyr ond caiff ei gorfodi i’w ddarllen i’r dosbarth. Am fod y cynnwys o natur rywiol, mae Brwmstan yn cosbi Defi trwy gymryd ei fathodyn Swyddog wrtho a chysylltu â'i rieni. Serch hynny, mae Defi hefyd yn gweld Brwmstan yn dal dwylo gyda disgybl yn ei ddosbarth a cheir awgrym cryf ei fod yn dyheu amdani mewn ffordd rywiol. Mae Defi hefyd yn herio Brwmstan am yr hyn a wnaeth i Lorraine. Cynhelir ffug-etholiad yn yr ysgol gyda Defi’n cynrychioli Plaid Cymru. Erbyn diwedd y bennod mae Awen a Defi’n gariadon, er gwaethaf ymdrechion mam Defi i’w cadw ar wahân.

Pwyll 15:07, 25 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Crynhoad da, Pwyll. Dwi'n cytuno fod yr adran am yr ail raglen yn rhy faith o lawer mewn cymhariaeth â gweddill yr erthygl. Ond, os oes digon i'w ddweud, beth am gael erthygl arall ar gyfer hynny? Mae'r Wici Saesneg ac eraill yn cynnwys erthyglau cyfan am benodau unigol o gyfresi teledu (e.e. Dr Who). Anatiomaros 23:58, 25 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Dim gwrthwynebiad yma. Rwy' wedi cywiro fe hefyd (to bach; sillafu; dim lot o gwbl). Cer amdani i'w gwneud :) Anat, a wyt yn golygu cael erthygl jyst ar gyfer Rhaglen 2? Gan mai Wici bach ydyn ni, ac mai rhaglen fach yw Pen Talar (mewn cymhariaeth â Dr. Who, er enghraifft), dwi ddim yn meddwl bod rhaglenni penodol, unigol yn haeddu erthyglau ar wahân. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 01:27, 26 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Does dim llawer o ots gen i mewn gwirionedd; dim ond awgrym oedd o. Dwi'n cytuno ni fyddai'n gwneud synnwyr heb ei wneud yn achos pob pennod a hynny dim ond ar yr amod fod digon o ddeunydd i gyfiawnhau hynny. Anatiomaros 15:57, 26 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Dw i'n cytuno hefyd. Os oes un ar gyfer pob pennod, yna gret. Os nad oes e, gallwn ni adael y disgrifiad manwl o gynnwys yr ail raglen ar wici Pen Talar a defnyddio'r crynodebau fan hyn. Felly os nad oes gwrthwynebiad, fe ddileaf i'r disgrifiad o bennod 2 a gosod y crynodeb yn ei le. Pwyll 16:02, 26 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Wedi mynd o'r Wiki.de yn anffodus!!!! Dim yn deall y peth!--85.211.40.198 20:15, 28 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Ond wedi aros yn ddidrafferth (ar hyn o bryd, o leia') ar en. Rhyfedd! Pwyll 08:19, 29 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Pen Talar".