Sgwrs:Pibydd Coeswyrdd

(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Pibydd Coeswerdd)
Sylw diweddaraf: 2 flynedd yn ôl gan Troellwr ym mhwnc coeswerdd / coeswyrdd

coeswerdd / coeswyrdd

golygu

Dyma gynnig newid yr erthygl i 'Pibydd Coeswyrdd' gan fod 'Pibydd Coeswerdd' yn broblemataidd yn ramadegol. Mae 'pibydd' yn enw gwrywaidd, felly yr ansoddair gwrywaidd 'coeswyrdd' (h.y.' gwyrdd o ran ei goesau') sydd ei angen yma. (Mae modd cymharu'r enw 'Elen Benfelen' - y ffurf fenwyaidd 'felen' sydd yma am fod Elen yn fenywaidd ac nid oes ots mai gwrywaidd yw 'pen'. Felly mae 'benfelen' yn gyson â'r enw benywaidd 'Elen', yn yr un ffordd ag y mae 'coeswyrdd' yn gyson â'r enw gwrywaidd 'pibydd'). ~~~ Troellwr (sgwrs) 17:40, 19 Rhagfyr 2022 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Pibydd Coeswyrdd".