Sgwrs:Pibydd coeswyrdd
coeswyrdd/coeswerdd
golyguGwelaf fod yr enw wedi ei newid yn ddiweddar o 'pibydd coeswyrdd' > 'pibydd coeswerdd'. Er y gallaf ddeall y rhesymeg, mewn gwirionedd mae'r enw 'pibydd coeswerdd' yn mynd yn groes i gystrawen arferol y Gymraeg. Yn benodol, nid oes gan ansoddeiriau cyfansawdd fel 'coeswyrdd' ffurfiau benywaidd (ac eithrio mewn rhaid ymadroddion eithriadol megis 'merch benfelen') – gw. Peter Wyn Thomas, Gramadeg y Gymraeg (Caerdydd, 1996), t. 201. Ac yn ychwnaegol at hynny, ffurf wrywaidd yr ansoddair – 'coeswyrdd' – sydd ei hangen ar ôl yr enw gwrywaidd 'pibydd' beth bynnag. Yn y Bywiadur, o chwilio am 'greenshank', 'pibydd coeswyrdd' yw'r ffurf a nodir yn y ffynhonell ddiweddaraf, sef Adar y Byd gan Cymdeithas Edward Llwyd a Chymdeithas Ted Breeze-Jones, 2015). Troellwr (sgwrs) Troellwr (sgwrs) 19:40, 15 Tachwedd 2022 (UTC)
- Gan hynny, rwy'n cynnig newid enw'r erthygl yn ôl i 'pibydd coeswyrdd'.~~~ Troellwr (sgwrs) 23:34, 15 Tachwedd 2022 (UTC)