Sgwrs:Rhestr duwiau a duwiesau Celtaidd

Latest comment: 14 o flynyddoedd yn ôl by Xxglennxx in topic Adfer yr hen fersiwn

Adfer yr hen fersiwn golygu

Dwi wedi gwneud hynny am sawl rheswm:

1. Rhestr ydy hon, nid erthygl fel y cyfryw. Os oes angen testun o gwbl mae brawddeg neu ddwy yn ddigon.
2. Mae newid 'Duwiau a duwiesau' i 'duwdodau' yn newid sy'n effeithio ar nifer fawr o erthyglau a chyfeiriadau eraill, heb sôn am gategorïau. Yn bersonol fedra i ddim gweld unrhyw reswm dros y newid am mai 'duwiau a duwiesau' yw'r ymadrodd naturiol yn Gymraeg (Gweler hefyd Sgwrs:Duwdod).
3. Roedd y testun a ychwanegwyd yn llawn gwallau o bob math ac yn cynnwys datganiadau fel "Wedi i'r gwledydd Celtaidd gael eu Seisnigeiddio, roedd ceisiadau gan ysgrifenwyr Cristionogol i gythreilio (demonize) y duwdodau cyn-Gristnogol." Y lle i ddeunydd am y duwiau a duwiesau yw'r erthygl Amldduwiaeth Geltaidd. Mae angen erthygl ar grefydd (h.y. ffurfiau addoli ayyb) y Celtiaid hefyd.

Glenn, dwi'n gobeithio fyddi di ddim yn digio wrthyf fi am wneud hyn. Mae dy destun ar gael o hyd trwy Hanes y dudalen, wrth gwrs. Roedd cywiro popeth yn ormod o waith ac ar ben hynny rhestr ydy hyn i fod nid erthygl sy'n disgrifio'r 'duwdodau' a'u hanes. Anatiomaros 19:02, 2 Ionawr 2010 (UTC)Ateb

Ni fyddaf yn dy ddigio am wneud y newid yn ôl. Efallai rhestr yw hon, ond dwi'n meddwl fyddai'n dda petaen ni roi tipyn o gefndir i'r rhestr, ond 'sdim ots. Roedd datganiadau fel yr uwchben yn y testun oherwydd eu bod nhw'n gywir - unwaith roedd y gwledydd Celtaidd yn Baganaidd, a chawsant eu Seisnigo (anglicise hy, ie?). Xxglennxx 23:38, 2 Ionawr 2010 (UTC)Ateb
Diolch, Glenn. Y rheswm i mi dynnu sylw at y frawddeg "Wedi i'r gwledydd Celtaidd gael eu Seisnigeiddio, roedd ceisiadau gan ysgrifenwyr Cristionogol i gythreilio (demonize) y duwdodau cyn-Gristnogol" yw nad yw'n gwneud llawer o synnwyr. Efallai mod i wedi camddeall yr hyn rwyt ti'n trio ddeud, ond yn y cyd-destun mae'n swnio fel cyfeiriad at y cyfnodau cynnar pan gyflwynwyd Cristnogaeth i'r gwledydd Celtaidd, ac os felly mae'n anghywir am y rheswm syml na chafodd Cymru ac Iwerddon ayyb eu Seisnigeiddio yn yr Oesoedd Canol (Cynnar a Diweddar). Gellid dadlau fod dyfodiad Protestaniaeth yn yr 16eg ganrif a'i gwneud yn grefydd wladol wedi digwydd mewn cyfnod o Seisnigeiddio go iawn, yma ac yn Iwerddon, ond mater arall ydy hynny - roedd y grefydd "baganaidd" wedi hen ddarfod erbyn hynny, wrth gwrs. Cofia fod llawer o'r "ysgrifenwyr Cristionogol" rwyt ti'n cyfeirio atynt yn Geltiaid/Brythoniaid/Cymry/Gwyddelod hefyd. Dydwi ddim yn un i achub cam y Saeson yn aml, ond fedra i ddim gweld fod Seisnigeiddio ynddo ei hun (ar ba raddau bynnag) yn gyfrifol am hynny - hyd yn oed yn y cyfnod modern (16eg g >) dim ond un elfen yn y cawl oedd o. A beth am Lydaw? Dim Seisnigeiddio fan 'na! Ac roedd yr Albanwyr yn ddigon parod i "gythraulyddu" yr hen dduwiau heb gymorth y Saeson hefyd (hanes brawychus y Kirk...). Rhaid i ni fod yn ofalus wrth gyffredinoli. Wedi dweud hynny, mae 'na beth wmbreth o waith i wneud ar grefydd ac dwi'n falch dy fod yn ymddiddori yn y maes ac yn cyfrannu. Maddeua i mi am fod yn "arch-feirniad" weithiau :-) Anatiomaros 16:36, 3 Ionawr 2010 (UTC)Ateb
Weithiau rwyt ti'n dweud?! Haha. Cyfieithiad o'r Wici Saesneg oedd y frawddeg honno, felly doeddwn i ddim yn hollol siŵr ei bod yn gywir, ond dyna beth a'r oedd yn gywir o'm pen i hefyd (roedd yn rhaid imi ganolbwyntio'n well yn nosbarth Hanes, haha!). Fel dywedais, dwi ddim yn erbyn dy ôl-newidiadau a dweud y gwir, felly paid poeni :) Mae'r stwff crefydd yma yn brin iawn, felly hoffwn i ymestyn yr ertyglau. Xxglennxx 22:18, 3 Ionawr 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Rhestr duwiau a duwiesau Celtaidd".