Sgwrs:Rhestr gwledydd yn nhrefn eu poblogaeth

Latest comment: 9 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Ychwanegu gwledydd eraill

Beth yn union ydy ystyr hyn? Ers pryd mai "Prydain Fawr" yn wlad (dydi hi ddim) sy'n cynnwys -

Prydain Fawr: Anguilla, Ynysoedd Virgin Prydeinig, Bermuda, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd y Falklands, Gibraltar, Guernsey, Ynys Manaw, Jersey, Montserrat, Ynys Pitcairn, Saint Helena, Ynysoedd Turks a Caicos?

Sylwer dydy Cymru, yr Alban a Lloegr ddim ar y rhestr chwaith. Smonach o beth, cwbl ddistyr! Dwi'n awgrymu symud hyn i 'Rhestr gwledydd sofranaidd...' neu 'Rhestr gwladwriaethau...' hefyd, am mai dyna ydyw. Anatiomaros 14:24, 18 Mai 2009 (UTC)Ateb

Bler. Ond tydy Prydain fawr ddim yn wlad sofran chwaith, DU (neu DG) ddylai fod. 'Problem' arall efo rhestr fel hyn bod eisiau eu diweddaru yn gymharol reolaidd (er mae hyn yn wir am sawl erthygla ddim yn reswm dros peisio eu cael debyg).--Ben Bore 14:41, 18 Mai 2009 (UTC)Ateb
Cytuno dydy Prydain Fawr ddim yn wlad sofranaidd (nac yn wlad o gwbl), ond be dwi ddim yn deall yn fy niniweidrwydd ydy sut gall y DU/Prydain/beth bynnag gynnwys nid yn unig ni ond y Falklands ac Ynysoedd Turks a Cocos? Dydy o ddim yn gwneud synnwyr o gwbl, hyd yn oed os ydy'r olaf yn diriogaethau dibynnol ar Goron Lloegr/Prydain. Anatiomaros 15:57, 18 Mai 2009 (UTC)Ateb
Efallai bydd copio'r templed o'r erthygl Saesneg yn syniad da. Yna bydd adnewyddu'r data yn hawdd. Rhys Thomas 20:11, 18 Mai 2009 (UTC)Ateb
Sut yn union mae gwneud hyn? Mae'r ffigyrau mor hen ar yr erthygl cy fel bod yn ddiwerth erbyn hyn. Falle dylid rhoi rhyw nodyn rhybudd ar ben y dudalen? --Ben Bore 08:10, 9 Awst 2011 (UTC)Ateb

Ychwanegu gwledydd eraill golygu

Mae can croeso wrth gwrs, newid y meini prawf, fel fod y rhestr yn cynnwys yr Alban, Cymru ayb! Y broblem ydy y byddai'n rhaid ail rifo'r bali lot! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:16, 20 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Rhestr gwledydd yn nhrefn eu poblogaeth".