Sgwrs:Saeson

Latest comment: 17 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros

Sut caiff pobl o Loegr yn unig eu disgrifio? Dwi wastad wedi clywed a ddefnyddio'r term Saeson, ond gan fod hyn yn derm am y "Sacsoniaid" hefyd gall hyn achosi cymysgwch. Oes modd o wahaniaethu rhwng yr ystyron? —Adam (sgwrscyfraniadau) 16:49, 6 Ionawr 2006 (UTC)Ateb

Y 'Saeson' ydi cenedl Lloegr. Arferir yr enw 'Sacsoniaid' (Saxons) am eu hynafiaid yn Oes y Seintiau, ac am y llwyth a ddaeth drosodd o dir mawr Ewrop i Loegr. Dywedir 'Eingl-Sacsoniaid' (Anglo-Saxons) hefyd, i gynnwys llwythau eraill. Gwell hefyd defnyddio'r gair 'Sacsoniaid' am drigolion presennol Sachsen/Sacsoni yn yr Almaen, yn hytrach na 'Saeson'. Mae'r erthygl fel y mae yn cymysgu'r ddau derm, a dw i'n meddwl bod angen newid hyn. Siswrn 20:19, 23 Ionawr 2007 (UTC)Ateb
Dwi'n cytuno gant y cant. 'Saeson' ydi'r enw am genedl Lloegr (o ganol yr Oesoedd Canol ymlaen; yn fras ar ôl 1066). Cyn hynny roedd 'na'r 'Eingl-Sacsoniaid' (Sacsoniaid, Eingl, Iwtiaid, etc.). Yr unig anhawster yw Sacsoni (ond mae hynny'n wir yn Saesneg hefyd). 'Sacsoniaid' am y llwyth hynafol a 'Sacsoniaid (Sacsoni)' am y bobl gyfoes, efallai? Ond yn sicr mae'r erthygl hon fel y mae yn gawlach camarweiniol ac aneglur. Rhannu'r cynnwys yn ddwy erthygl di'r gorau, dwi'n meddwl. Oes gan rywun arall syniadau ar hyn? Anatiomaros 20:55, 23 Ionawr 2007 (UTC)Ateb
Cytuno. Gellid defnyddio "Y Saeson" (neu fyddai "Saeson" heb yr "Y" yn well?) ar gyfer trigolion presennol Lloegr; "Sacsoniaid" am y llwyth hynafol, ac ail-gyfeirio'r Sacsoniaid modern i "Sacsoni" efallai. Rhion 21:04, 23 Ionawr 2007 (UTC)Ateb
Gan fod pawb i weld yn cytuno rwyf wedi creu erthygl newydd Sacsoniaid ac wedi symud y rhan fwyaf o hen gynnwys yr erthygl iddo. Rwyf wedi symud y dudalen yma i Saeson yn hytrach nag "Y Saeson", i fod yr un fath a "Cymry", "Gwyddelod" etc, a rhoi ychydig o gynnwys ynddi i gychwyn pethau. Mae'r erthygl yn y Wiki Saesneg yn dipyn o gawl, ac efallai ddim yn werth ei gyfieithu. Rhion 18:53, 3 Chwefror 2007 (UTC)Ateb
Da iawn. Roeddwn i wedi angofio / wastad yn ymgolli mewn pethau eraill. Roedd wir angen gwahaniaethu rhwng Saeson / Sacsoniaid etc. Wna i drio ychwanegu pytiau bob hyn a hyn i'r erthyglau newydd. Anatiomaros 19:22, 3 Chwefror 2007 (UTC)Ateb


mae'r erthygl hon gormod o ddifri. dyma gyfle perffaith i ddweud pethau tu ol i eu cefnau ac rwyt ti'n ei wastraffu. dweda i wrth dy fam dy fod ti'n rhy ddifrifol. bydd hi'n dy roi yn dy wely heb ginio —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Gossamer Beynon (sgwrscyfraniadau) 04:47, 12 Mawrth 2010

Nôl i'r dudalen "Saeson".