Sgwrs:Siopau Cymraeg Arlein

Latest comment: 15 o flynyddoedd yn ôl by Alan012

Ydy hi'n iawn i roi hysbysebion fel hyn yma

Dyfrig 23:41, 27 Aws 2004 (UTC)

Annwyl Dyfrig: Dw i ddim yn siwr, ond mae'n debyg fod tudalen fel hyn yn cael ei dileu mewn Wicipediau eraill fel "advertisment" os nad yw gwybodaeth am hanes a phwysigrwydd y siop neu/a chysylltiadau i siopau arlein eraill. Beth bynnag, dw i'n weld fod pobl sydd yn siarad yr iaith yn ymddiddori mewn siopau arlein Cymraeg -- beth am newid y tudalen i fod yn un sydd yn cyflwyno siopau llyfrau ac ati hefyd? Er enghraifft o dan enw fel Siopau Arlein Cymraeg? --okapi 07:13, 28 Aws 2004 (UTC)
Efallai fod Siopau Cymraeg Arlein yn well deitl, ond mae'r syniad yn un dda. Gareth 20:39, 28 Aws 2004 (UTC)
Cytuno mai Siopau Cymraeg Arlein sydd orau. Credaf y dylem gadw llygad ar hyn - hoffwn i ddim gweld y Wicipedia Cymraeg yn cael ei lethu gan hysbysebion. Onid yw yn ddigon hawdd i bobl gael gafael ar siopau/nwyddau Cymraeg drwy ddefnyddio peiriant chwilio beth bynnag
Dyfrig
Iawn. Mi wna i symud y tudalen felly. Hwyl! --Okapi 13:28, 29 Aws 2004 (UTC)

Roedd yr erthygl hon heb gategori ac wedi bod yn cuddiad yng nghrombil y wikipedia ers 2004, mae'n debyg. Cefais hyd iddi ar ôl creu'r eginyn-erthygl siop. Dwi braidd yn amheus amdani fel y mae hi rwan. Dydi hi ddim llawer mwy na rhestr o ddolenni allanol ac yn agored i ddenu 'spam'. Angen dweud mwy am hanes siopio ar-lein yn Gymraeg. Ond dwi ddim yn awgrymu ei dileu (mater arall be bai dim ond rhestr o siopau ar-lein Saesneg). Anatiomaros 21:40, 31 Mawrth 2007 (UTC)Ateb

Mae'r dudalen hon yn ymddangos i mi fod yn anaddas yn ei ffurf bresennol. Alan 14:37, 2 Awst 2008 (UTC)Ateb
Dw i wedi ail-gyfeirio'r dudalen at Cymraeg ar y rhyngrwyd, ac wedi symud brawddeg o'r hen erthygl yna. Os mae hysbysrwydd cyffredinol am siopa ar-lein (dim dolenni i fusnesau unigol), gallai e fynd yn yr erthygl honno. Dwi'n meddwl nad oes gyda ni ddigon o hysbysrwydd o fath addas i wneud erthygl gwahanol am siopau ar hyn o bryd. Alan 14:59, 2 Awst 2008 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Siopau Cymraeg Arlein".