Sgwrs:Tarddiad gwerin
Sylw diweddaraf: 18 o flynyddoedd yn ôl gan Dyfrig
Tra bod peth gwirionedd yn y disgrifiad o eiriau yn newid (enwau lleoedd er engraifft er na sonnir am hynny yma), ofnaf na allaf dderbyn y ddalen hon fel ag y mae. Yn arbennig yr hyn a ddywedir am cadben a mwnci . Betm mae eraill yn feddwl. Dyfrig 14:17, 30 Rhagfyr 2006 (UTC)
- Dwi wedi ychwanegu ffynonellau llawn ar gyfer yr enghreifftiau. Wyt ti'n dweud nad yw'r ffurfiau cadben a mwncwn yn bod? Neu yn dweud nad ydynt wedi datblygu fel mae'r erthygl yn ei ddweud? Rhestrir y ffurfiau i gyd yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru ac maen nhw i'w gweld mewn llenyddiaeth Gymraeg. Dwi wedi cymryd esboniad datblygiad cadben yn syth allan o GPC. Mae GPC jyst yn rhoi mwncwn ac ati heb esboniad, ond mae'r tarddiad yn hollol amlwg. Daffy 15:01, 30 Rhagfyr 2006 (UTC)
- Rhaid i mi gwympo ar fy mai felly. Dyfrig 16:20, 30 Rhagfyr 2006 (UTC)