Sgwrs:The Who
Sylw diweddaraf: 17 o flynyddoedd yn ôl gan Rhys
Fe fydd John Bundrick yn chwarae allweddau, nid yr allweddell yn unig. Mae rhaid i mi egluro bod yna wahaniaeth. Mae allweddau yn air cyffredinol am offerynnau llawfwrdd, fel piano, organ, harpsicord ac yn y blaen. Ar y llaw arall, fe fydd yr allweddell yn golygu aill ai llawfwrdd yr offerynnau hyn, neu offeryn llawfwrdd electronig sy'n dynwared offerynnau eraill. Gan fod John Bundrick yn chwarae'r organ, y piano a'r allweddell, fe ddywedir ei fod yn chwarae allweddau.
Lluosog DRWM yw DRYMAU neu DRYMIAU. Mae'r ddau yn gywir. Gwell gennyf ddefnyddio drymau gan mai hon yw'r sillafiaeth ddefodol. Rhys 12:13, 4 Ebrill 2007 (UTC)