Sgwrs:Tour de France
Sylw diweddaraf: 6 blynedd yn ôl gan Oergell ym mhwnc Rasys hanesyddol
Rasys hanesyddol
golyguDw i newydd gyfeirio dolenni at rasys hanesyddol at y tudalen hwn. --Oergell (sgwrs) 17:32, 29 Rhagfyr 2017 (UTC)
Cymal
golyguAi cymal ddylai 'Stage' fod yn yr ystyr hyn? Gan feddwl fod 'cymal' yn gymraeg yn golygu 'Round' yn ogystal, sut mae gwahaniaethau rhwng cymal neu gam mewn 'Stage Race' rhwng cymal o Gwpan Trac y Byd fel engraifft? Wedi bod yn meddwl am hyn am rhyw fis heb allu canfod ffordd gwell na 'Cam' i wahaniaethu. Yn arbennig wrth gysidro fod pob 'Stage' yn cael ei ddal mewn/rhwng ddau le gwahanol tra bod cymal yn cynnig y syniad fod bob un yr un fath neu'n yn debyg iw gilydd oleiaf!? Thaf 20:06, 24 Medi 2007 (UTC)
- Dyma beth sy'n safonol dwi'n credu:
- cymal = 'stage' (beicio), 'leg' (pêl-droed), 'leg' (athletau, mewn ras gyfnewid)
- rownd = round (pêl-droed) (a beicio, 'swn i'n meddwl)
- Diolch, wedi pori'r erthyglau yno ond dal methu canfod ateb i un cwestiwn, beth ydi'r enw am 'Stage Race'? Ydi Ras Gymal yn swinion iawn neu ddylsia fod yn Ras sawl cymal neu Ras Cymalau... Thaf 07:58, 25 Medi 2007 (UTC)
- Ras gymalau, 'swn i'n meddwl. Beth mae eraill yn ei feddwl? Oes angen blwch 'bathu termau' ar waelod y dudalen i hybu trafodaeth? Daffy 10:50, 25 Medi 2007 (UTC)
- Ie, sut mae gwneud hynnu?
- Mae nifer o dermau eraill seiclo'n profi'n anodd i'w cyfieithu, mae Time Trial: 'Treial Amser' reit hawdd a gallwn gadw'r termau Ffrengig sy'n cael eu defnyddio mewn sawl iaith; ond beth am 'Circuit Race', 'Pursuit', 'standing start', 'bunch race', 'slipstream', 'chain gang', 'intervals' neu 'interval training', 'cross training', 'cyclo-cross' ayb.
- A hynnu heb ddechrau ar dermau am ddarnau o'r beic megis 'groupset', 'bottom bracket', 'chainset', 'headset' a 'deraillieur'... Thaf 11:53, 25 Medi 2007 (UTC)