Sgwrs:Tri Chopa Swydd Efrog
Sylw diweddaraf: 14 o flynyddoedd yn ôl gan Xxglennxx ym mhwnc Newid enw'r erthygl
Fel fy nghwestiwn rhywle arall am dreiglad llais ar ôl "chwe", beth am ar ôl "tri" (yma, "Tri Chopa")? Ond dydw i ddim am fod yn hen ffasiwn. Y ddraig felen 21:51, 5 Mawrth 2010 (UTC)
- Digon posib dy fod ti'n iawn, efallai gall rhyun arall gadarnhau.--Ben Bore 12:56, 6 Mawrth 2010 (UTC)
- Un Copa, Dau Gopa, Tri Chopa, Pedwar Copa, Pum Copa (colli'r 'p' olaf), Chwe Copa (colli'r 'ch'), Saith Copa, Wyth Copa, Naw Copa, a Deg Copa :) Xxglennxx 14:29, 17 Mawrth 2010 (UTC)
Newid enw'r erthygl
golyguOs nad yw neb yn anghytuno erbyn 24 Mawrth 2010, cawn ni symud enw'r erthygl o "Tri Copa Swydd Efrog" i "Tri Chopa Swydd Efrog." -- Xxglennxx 14:43, 17 Mawrth 2010 (UTC)
- Rwyt ti yn llygad dy le, Glenn, mae angen y treiglad llaes (hyd yn oed os ydy rhai pobl yn siarad a sgwennu Cymraeg y dyddiau hyn fel pe bai dim ffasiwn beth â threiglad yn bod!). Croeso i ti symud yr erthygl. Anatiomaros 15:28, 17 Mawrth 2010 (UTC)
- :D Diolch yn fawr. Gwnaf i symud yr erthygl nawr 'te :) Xxglennxx 00:27, 18 Mawrth 2010 (UTC)