Sgwrs Categori:Rheilffyrdd Cymru

Latest comment: 16 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic 'Leiniau' sydd wedi cau

'Leiniau' sydd wedi cau golygu

Mae defnyddiwr newydd wedi cyfieithu erthygl am Lein Amlwch ac es i'w roi mewn categori, ond ar dudalen Categori:Rheilffyrdd Cymru, mae'n ymddangos fel rhestr o reilffyrdd bach presennol Cymru. A ddylid creu is-gategori i linellau/rheilffyrdd sydd wedi cau? Dwi'n gwybod yn iawn sut i wneud hyn fy hun, ond ddim yn siwr ydw i a ddylid gwahaniaethu rhwng 'lein' a rheilffordd + oes gair gwell na lein i'w gael (fel gofynnwyd uchod)?--Ben Bore 11:29, 2 Ebrill 2008 (UTC)Ateb

Cwestiwn da. Dwi wedi gadael sylw ar Sgwrs:Lein Amlwch. Anatiomaros 15:19, 2 Ebrill 2008 (UTC)Ateb

Ar y mater o 'lein' yn hytrach na 'rheilffordd', tydy Arriva ddim yn gyson iawn (cymharer lein y Gororau gyda Rheilffordd Calon Cymru), ond nid yw eu gwasanaeth Gymraeg yn un heb ei ail, chwaith. Fe fyddwn i'n cynnig y diffiniad technegol isod:

  • Mae rheilffordd yn cyfeirio at lwybr neu rwydwaith rheilffordd sydd yn endyd cyflawn a redir gan un cwmni.
  • Mae lein yn cyfeirio at lwybr rheilffordd sydd yn randdarn o rwydwaith fel yr uchod.

Ond y gwir ydy fod y termau am gael eu defnyddio'n anghyson, ac y byddai'n anodd ceisio gwahaniaethu ar hyn.

O ran is-gategorïau, Fe fyddwn i'n awgrymu fod lle i:

  • Rheilffyrdd Cyhoeddus
  • Rheilffyrdd Treftadaeth
  • Rheilffyrdd Diwydiannol
  • Rheilffyrdd sydd wedi cau

Nid oes rhaid i'r rhain fod yn gyd-anghynhwysol. Ansbaradigedfran 20:51, 6 Ebrill 2008 (UTC)Ateb

Diolch am yr ymateb. Dwi dal heb fod yn siwr iawn am 'lein' yn lle 'rheilffordd' ond mae'r syniadau am enwau categori yn gwneud synnwyr. Dwi'n hapus i gadw 'Lein Amlwch' os dyna di'r enw yn lleol, ond fel ti'n ddeud mae 'na anghysonderau mawr. Dwi ddim yn meddwl fod rhaid i reilffordd gael ei rhedeg gan un cwmni i fod yn "rheilffordd", e.e. mae Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn fwy safonol na "Lein Gogledd Cymru", yn fy marn i. Ond 'ta waeth am hynny - cael yr erthyglau i mewn sy'n cyfri! Anatiomaros 21:12, 6 Ebrill 2008 (UTC)Ateb
Diolch i chithau hefyd am y cefnogaeth. Dwi'n cytuno fod "Rheilffordd Arfordir..." yn well na "lein" o bell ffordd, ac y dylai defnyddio "rheilffordd" lle nad ydy arfer yn dweud yn groes. Dwi newydd sylwi ar wahaniaethun (ydy hynny'n air?) arall hefyd sy'n ymddangos yn ddilys yn y Gymraeg. Mae "Lein Amlwch" yn enwi cyrchfan ar y llwybr, tra fod "Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru" yn disgrifio'r ardal lle mae'r rheilffordd. Gallai "Lein Caergybi" ei ddisgrifio hefyd, os yn siarad o gyd-destun Caer (er nad ydw i erioed wedi gweld y term yma mewn defnydd).
Ond mae hyn yn brysur troi i fewn i ymarfer ieithyddol. "Rheilffordd" bob tro gynigwn i, ac eithrio pan "lein" yw'r enw adnabyddedig.Ansbaradigedfran 20:56, 8 Ebrill 2008 (UTC)Ateb
Dwi'n cytuno. Mae'n rhy hawdd symud mewn cylchoedd heb gyrraedd y nod! Gyda llaw, os ydych chi am greu'r categorïau uchod, rhowch 'Rheilffyrdd cyhoeddus' (llythyren fach) etc yn lle 'Rheilffyrdd Cyhoeddus', er mwyn cysondeb gyda'r enwau categori eraill. Diolch eto. Anatiomaros 22:02, 8 Ebrill 2008 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Rheilffyrdd Cymru".