Sgwrs Categori:Seintiau

Latest comment: 17 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros

Beth sy'n gywir, seintiau yntau saint? Ham 23:53, 15 Tachwedd 2006 (UTC)Ateb

Mae'r ddau yn gywir ond mae seintiau yn cael ei ddefnyddio fel rheol i olygu "Saints" efo "S" fawr, fel petai, h.y. pobl sydd wedi'u canoneiddio gan yr eglwys, tra fod "saint" yn tueddu i olygu rhywrai a berchir yn fawr ond sydd ssim o reidrwrydd wedi'u canoneiddio, e.e. pobl duwiol yn yr eglwysi ymneilltuol. Ond yn hanesyddol ceir enghreiffitiau o "seintiau", "saint" a "seint" i olygu seintiau canoneiddiedig hefyd. "Seintiau" sy'n gywir yma, fodd bynnag; sonnir am "Oes y Seintiau" fel rheol, er enghraifft, bron byth "Oes y Saint". (Fi greodd y categori, gyda llaw!). Gobeithio fod hynny'n help. (Mae 'na nifer o enghreifftiau hanesyddol o'r defnydd yn Geiriadur Prifysgol Cymru d.g. sant, os medri di gael gafael ar gopi). Anatiomaros 00:06, 16 Tachwedd 2006 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Seintiau".