Sgwrs Categori:Ysgolion cyfun dwyieithog yng Nghymru

Latest comment: 17 o flynyddoedd yn ôl by Lloffiwr

Hoffwn awgrymu bod y term "ysgolion ddwyieithog" yn gallu bod yn gamarweiniol. Dros gyfnod ers y 1950au fe sefydlwyd yng Nghymru ysgolion a ddynodwyd yn swyddogol gan y Swyddfa Gymreig fel "Ysgolion Cymraeg" yn y Gymraeg a fel "Designated Bilingual Schools" yn y Saesneg - ac yn wreiddiol roedd rhain yn wahanol iawn i'r ysgolion o'u cwmpas gan mai rhain yn unig fuasai'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond wrth i bolisïau addysg ddwyieithog Cyngor Sir Gwynedd ac awdurdodau addysg eraill mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith ddatblygu, fe dyfodd y defnydd o'r Gymraeg mewn ysgolion heblaw y rhai a ddynodwyd. Mae'r Cwricwlwm Cenedlaethol hefyd wedi golygu bod elfen o'r Gymraeg ym mhob ysgol yng Nghymru.

Oherwydd y tueddiadau hyn, mae'r defnydd o'r term "ysgolion dwyieithog" ar gyfer y rhai a ddynodwyd yn unig o bosibl yn methu â chydnabod yr elfen sylweddol o ddwyieithrwydd sy'n bodoli yn naturiol yn y rhan fwyaf o ysgolion eraill yn y Fro Gymraeg. Mae eu gwahanu mewn categorïau yma ond yn cryfhau'r tueddiad anffodus. D22 20:03, 3 Mai 2007 (UTC)Ateb

Yn cytuno â'r sylwadau hyn. Ar yr un pryd rwyn meddwl ei fod o ddiddordeb gwybod pa ysgolion sy'n cynnig addysg yn rhannol neu'n gyfangwbl trwy gyfrwng y Gymraeg. A allem:
  • gadw is-gategori i'r categori Ysgolion Uwchradd Cymru ar gyfer ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, a
  • newid y rhestr o ysgolion cyfun dwyieithog i restr o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, neu
  • cael gwared ar y categori a'r rhestr ysgolion cyfun dwyieithog yng Nghymru ond rhoi colofn ychwanegol yn y tabl yn y rhestr Ysgolion uwchradd yng Nghymru (sydd ymhell o fod yn gyflawn eto) o gofnodi bod yr ysgol yn cynnig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, mewn rhai pynciau neu ar gyfer pob pwnc.

Lloffiwr 21:13, 4 Mai 2007 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Ysgolion cyfun dwyieithog yng Nghymru".