Yn hytrach na beirniadu iaith pobl awgrymaf dy fod yn ehangu a chyfrannu erthyglau at Wicipedia. Cyn hynny mae na fflyd o gangymeriadau gen ti sydd angen eu cywiro (ac ar dy gyfrifon IP eraill): ee pegynnol (gweler Geiriadur Bangor), ac mae dy 'gywiriad' (!) credir fod -> credir bod yn bendantig ac yn groesi i nifer eraill o wefannau modern ee BBC, Prifysgol Abertawe, S4C, Clera, Cyngor Sir Gwynedd a Chonwy 'Ein Treftadaeth, Thywysogion Gwynedd a Golwg. Prosiect heb ei orffen ydy Wici, a pheth braf ydy gweld pobl yn cywiro iaith (yn enwedig pan fo'r cywiriadau'n gywir), ond mae hefyd yn brosiect newydd a chyffrous a all dorri dir newydd gyda iaith, fel mae Golwg wedi ei wneud - a Sulyn o'i flaen. Synaf dy fod yn cywiro 'ydy' -> 'ydyw'. Chlywais i neb yn dweud 'ydyw' ers hanner canrif, a does dim raid i ni ddefnyddio orgraff John Morris-Jones na ieithwedd Dafydd ap Gwilym chwaith. Fy awgrym caredig i ti ydy - crea enw defnyddiwr, golyga, sgwenna erthygla, cywira hefyd ond yn fwy na dim - bydd bositif! Pedwaredd colofn Wicipedia ydy'r cais i ddefnyddwyr wella'r cynnwys ac nid ymosod ar ddefnyddwyr eraill. O leiaf yma, da ni'n medru cywiro, ac ail-gywiro, gwella, newid ac ail a thrydydd newid fel y daw gwybodaeth newydd i'r fei - fedra i ddim dweud hynny am Wyddoniadur Cymru; mae'r cangymeriadau sydd yn y fan honno - fel y rhan fwyaf o gyhoeddiadau 'safonnol' - mewn marmor a choncrid - ac yn wybodaeth anghywir i'r darllenydd hyd dragwyddoldeb. Dal ati i gywiro fy nghangyms, ond fel y dywedaist does neb yn berffaith! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:36, 18 Ionawr 2015 (UTC)Ateb

Cywiriadau cywir golygu

Mae gen ti lawer o gywiriadau cywir - a diolch amdanyn nhw. Fodd bynnag, pam wnest ti'r rhain? Yn ail, paid a chywiro gwaith defnyddiwr pan fo'n dal wrthi! Mae angen disgwyl o leiaf hanner awr er, gan mai gwaith ar waith ydy, a theg gadael iddo orffen. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:49, 18 Ionawr 2015 (UTC)Ateb

Mae'r un yn sangiad, ac fe geir treiglad meddal wedi 'hyd'.

Dyma dudalen sgwrs ar gyfer defnyddiwr anhysbys sydd heb greu cyfrif eto, neu nad yw'n ei ddefnyddio. Felly mae'n rhaid inni ddefnyddio'r cyfeiriad IP i'w adnabod. Mae cyfeiriadau IP yn gallu cael eu rhannu rhwng nifer o ddefnyddwyr. Os ydych chi'n ddefnyddiwr anhysbys ac yn teimlo'ch bod wedi derbyn sylwadau amherthnasol, crëwch gyfrif neu mewngofnodwch i osgoi cael eich drysu gyda defnyddwyr anhysbys eraill o hyn ymlaen.