Croeso cynnes i ti! Dw i'n gweld dy fod wedi bod yn ymarfer yn y pwll tywod - gwych iawn!

Mae delweddau'n cael eu cadw mewn dau le ar wici: 1. ar Comin, lle mae nhw ar gael yn hawdd ar gyfer pob iaith / wici a 2. drwy eu huwchlwytho i wici unigol (botwm "Uwchlwyth ffeil" ar y chwith) lle cyfyngir yr hawliau hawlfraint i'r un iaith / wici honno. Efo poster, clawr llyfr, dvd ayb mae'r drwydded yn cael ei chyfyngu i un iaith / wici felly mae'n rhaid ei uwchlwytho i'r wici unigol. "Defnydd Teg" ydy'r term am y math yma. Roeddet ti'n hollol iawn efo'r côd i'w alw, ond gan mai ar wici Saesneg oedd o (ac nid ar Comin) yna doedd o ddim yn ymddangos. Mi wna i rwan safio'r ddelwedd ar fy nisg caled a'i huwchlwytho i'r wici Cymraeg (botwm "Uwchlwyth ffeil" ar y chwith) er mwyn i ti ei defnyddio. Pob hwyl a gadawa neges ar fy nhudalen Sgwrs os tisio. Llywelyn2000 (sgwrs) 23:59, 30 Ionawr 2014 (UTC)Ateb