Sgwrs Defnyddiwr:Rhyshuw1/Archif 1

Croeso. Deb 21:30, 9 Mawrth 2008 (UTC)Ateb

S'mai? golygu

Helo 'na. Neis gweld cyfranwyr newydd yma. Pan ti'n cyfrannu at erthygl, does dim angen gadae dy enw ar pob tudaln, gan bod tudalen hanes pob erthygl yn dangos pwy sydd wedi ysgrifennu beth.

Hefyd, sai'n 100% yn siwr pa mor addas yw sylwadau/dadasoddiad o gerddi ar y wicipedia, dwi'n meddwl efallai dylai jyst sticio i ffeithiau fel, "cafodd y gerdd X ei ysgriffenu gan Y yn y flwyddyn XXXX, ac mae'n cyfeirio at..(os yn berthnasol)"..ond dof nl atat gyda hynny.

Hwyl am y tro.--Ben Bore 13:08, 28 Mawrth 2008 (UTC)Ateb

Diolch am ymateb, a sori am gymeryd cyhyd i ddod yn ôl atat. Na tydw i ddim yn weinyddwr, dim ond golygydd/defnyddiwr cyffredin. Yn dilyn trafodaeth yn Y Caffi, penderfynwyd nad yw cerddi yn addas ar gyfer Wicipedia, oni bai bod arwyddocad arbennig i'r gerdd. Dwi am ddyfynu sylw cyfranwr arall (fy mhwyslais i):
Mae 'na le i erthyglau am gerddi, e.e. mae gennym Armes Prydein,

ond rhaid iddyn nhw fod yn gerddi adnabyddus sydd â lle amlwg yn hanes llenyddiaeth y wlad a chael digon i ddweud am y testun yn wrthrychol hefyd, fel y cefndir hanesyddol, mytholegol, a.y.y.b. neu ei ddylanwad ar waith llenorion eraill, cyfeiriadau ati mewn gweithiau llenyddol, ffilmiau, caneuon, a.y.y.b. — h.y. tipyn mwy na dadansoddiad neu feirniadaeth lenyddol o'r gerdd ei hun o safbwynt unigolyn.

Tra gallaf ddeall yn iawn bod astudio at arholiadau Cymraeg Llên yn rhywbeth diflas dros ben (un o fantesion mynd yn hen yw dim arholiadau!), nid teclun cynorthwyo adolygu yw Wicipedia/gwyddoniadur, ond ffynhonell ffeithiau. Os wyt yn credu bod cofnodi cerdd ar-lein a rhoi dy farn bersonol arno (rhywbeth sydd ddim i'w gynnwys ar gwyddoniadur) yn dy gynorthwyo, byddwn yn argymell cadw blog dros dro, ble mae yna wedyn gyfle i eraill (disgyblion eraill sydd hefyd yn ei astudio efallai) adael sylwadau eu hunain ar y gerdd ac efallai anghytuno â dy ddadansoddiad di.
Mae yna hefyd wefan o'r enw WiciLyfrau sy'n debyg i Wicipedia ond ar gyfer cofnodi hen gerddi a darnau eraill o lenyddiaeth, ble dwi'n credu (ond eto ddim yn 100% siwr) nad oes unrhyw wrthwynebiad i bobl adael eu dadansoddiadau personol eu hunain. OND rhaid bod yn ofalus gyda hawlfraint wrth ail gyhoeddi cerddi, llenyddiaeth, darluniau ayyb. Mae'n faes reit cymleth, a dwi ddim yn ei ddeall i gyd fy hun, ond rhaid unai cael caniatad awdur y gwaith gwreiddiol cyn ei gopio a'i ail-gyhoeddi, neu rhaid i'r awdur fod wedi bod yn farw am hyn a hyn o flynyddoedd.
Sori os ydi hyn yn swnio'n ddiflas a dros ben llestri, ond meddwl bueaswn yn ceisio esbonio pam bod yr erthygl wedi ei nodi ar dudalen Tudalenau Amheus. --Ben Bore 16:50, 31 Mawrth 2008 (UTC)Ateb
Newydd sylwi, mai nid dileu'r erthyglyglau sydd wedi digwydd, dim ond dileu'r copi o eiriau'r gerdd.--Ben Bore 16:55, 31 Mawrth 2008 (UTC)Ateb

Just a question golygu

I'm sorry I don't speak Welsh but I'm Argentinian and the truth is that I don't even speak English very well. We're having a problem at Spanish Wikipedia with the etymology of the word "Dorset". The article says that it comes from two Welsh words: Dwrn, which means "fist", and gwarae, that means "play". We have no references for that information and naturally there're no many Welsh speakers at Spanish Wikipedia, that's why I ask you if "fist" and "play" are actually the real meanings of the words Dwrn and gwarae. As I don't have an account in Welsh Wikipedia, I'd be really pleased if you answered my question here below. Thank you very much. Please, write in English! :) --201.252.199.248 01:51, 12 Ebrill 2008 (UTC)Ateb

My inner feeling is that it comes from Dŵr (water) and sedd (seat, place) as it is bounded north and south by sea. Another instance of the word dŵr (and its old form 'dwfyr') of course is Dover.

e-bost golygu

Dwi'n gweld bod eich cyfeiriad e-bost yn ymddangos ar eich tudalen defnyddiwr. Rwy'n awgrymu newid y symbol "@" i "AT" neu rywbeth tebyg, er mwyn peidio ag atynnu sbam. Cofion, Alan 10:39, 8 Hydref 2008 (UTC)Ateb

Hefyd, yng ngolofn chwith tudalen pob defnyddiwr, o dan y teitl 'blwch offer', mae opsiwn Anfon e-bost at y defnyddiwr hwn, felly does dim wir angen dangos dy gyfeiriad e-bost yma o gwbl, sy'n syniad lot gwell rhag y diawled sbam!--Ben Bore 13:03, 8 Hydref 2008 (UTC)Ateb

Erthyglau mathemateg a gwyddoniaeth golygu

S'mae Rhys,

(Dwi'n gobeithio fod yn iawn i mi dy alw'n ti. Cei fy ngalw'n ti hefyd.)

Dwi'n gobeithio'n fawr y byddi di'n gweithio ar yr erthyglau am fathemateg a gwyddoniaeth. Dydyn nhw ddim wedi cael lot o sylw gan siaradwyr rhugl o'u cymharu gyda'r erthyglau am lenyddiaeth ayyb, felly mae angen eu gwella ac ehangu. Mae gyda fi ddiddordeb ym mathemateg a ffiseg, ond mae'n anodd i mi ysgrifennu amdanynt yn y Gymraeg, achos fy mod i'n ddysgwr, heb y geirfa arbennig. Ond achos y byddi di'n dysgu'r pynciau 'na trwy gyfrwng y Gymraeg yn dy gyrsiau lefel A, byddi di mewn sefyllfa dda i weithio ar yr erthyglau hynny. Diolch yn fawr.

Cofion, Alan 08:52, 9 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb

O.N. llongyfarchiadau ar dy ganlyniadau TGAU (er nid CV ydy tudalen defnyddiwr!!) Alan 08:54, 9 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
Diolch am eich ateb. (Dwi'n gweld eich bod chi wedi defnyddio chi yn eich neges ataf i -- beth bynnag sy'n well gennych chi, 's dim ots.) Dw i ddim wedi meddwl erbyn hyn am restr o erthyglau sydd angen eu hehangu, dweud y gwir. Basai hi'n well i mi gadael y dewis i chi, achos eich bod chi'n gwybod yn well pa bynciau 'dych chi'n gallu ysgrifennu amdanynt, ond bydd y categoriau, e.e. Categori:Mathemateg a Categori:Ffiseg, yn rhoi syniad i chi am yr erthyglau sy'n bodoli ar hyn o bryd. Diolch yn fawr eto. Alan 20:31, 11 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb

Manylion personol golygu

Mi faswn i'n cwestiynu faint mor gall ydi rhoi dy ddyddiad geni, dy enw llawn, dy addysg ac o ble'r wyt ti'n dod i gyd mewn un man yn y parth cyhoeddus!! Thaf 10:43, 9 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb

Ia, dwi'n cytuno efo Thaf (er na feddyliais am y peth cyn hynny), gan ein bod ni'n byw yn y byd sydd ohoni. Dileu diwrnod a mis dy eni faswn i. Llywelyn2000 12:33, 9 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
Ar y pwnc 'ma, wyt ti'n bwriadu ail-ddefnyddio'r ffotos o dy hun, a oeddent ar dy dudalen defnyddiwr yn y gorffennol? (hyn, hyn, ac hyn). Os nac wyt, beth am eu dileu? Ond wna i ddim eu dileu fy hun -- ti wyt yn gallu gwneud hynny, achos dy fod di'n weinyddwr. Alan 21:23, 17 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

Tudalen Defnyddiwr 5* golygu

Wel rwyt ti'n codi cywilydd arna i! Mae dy ffenest siop yn cwl! Yn wych! Dwi newydd ddechrau ail-wampio fy un i; rwyt ti'n cael effaith bositif arnom ni! Gyda llaw, roedd fy hen, hen famgu yn dod o Lwynfedw, Lanfihangel yr Arth; felly dwi ddim yn ddrwg i gyd! Llywelyn2000 12:26, 9 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb

llofnod golygu

Sylw bach -- Pan ydych chi'n llofnodi eich negeseuon, allech chi deipio ~~~~ yn lle ysgrifennu "Rhys", os gwelwch yn dda? Pan ydych chi'n teipio hynny, mae'r meddalwedd yn cynhyrchu'r dyddiad a dolen i'ch tudalen defnyddiwr. Mae mwy nag un defnyddiwr aml o'r enw Rhys -- gwelwch Defnyddiwr:Ben Bore. Diolch. Alan 20:37, 11 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb

Neu, yn haws fyth, defnyddio'r botwm   sydd uwchben y blwch golygu!--Ben Bore 08:50, 12 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb

Ok! Diolch Ben Bore!

RThomas 22:03, 12 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb

lluniau golygu

Diolch yn fawr am y ffotos gwych a wyt ti wedi uwchlwytho'n ddiweddar. Alan 22:44, 5 Ionawr 2009 (UTC) Dim problem! Diolch!--RThomas 11:43, 6 Ionawr 2009 (UTC)Ateb

Wps! golygu

Shwmae! Dim ond neges cloi i ymddiheurio i ti... newidiais i rhywbeth ar dy dudalen Defnyddiwr yn gynt heddi ac mae'n debyg bod hynny'n anghwrtais ym myd Wikipedia. Ro't ti wedi ysgrifennu dy fod yn "dod o (G) Caerfyrddin" ac fe newidiais i hynny i "yn dod o Gaerfyrddin...". Trial helpu ro'n i, yn meddwl falle nad o't ti'n siwr sut i roi'r treiglad mewn ar y dudalen (achos fe gymrodd e oes i fi ffeindio'r botwm | !) Ta waeth, gobeithio nad oedd ots 'da ti (a dw i'n addo na wnai e byth 'to!) ;o) Rhodri77 19:14, 11 Ionawr 2009 (UTC)Ateb

dod yn weinyddwr golygu

Helo Rhys,

Diolch am dy gwestiwn ar fy nhudalen sgwrs. Dydy bod yn weinyddwr ddim yn golygu bod unrhyw "statws" arbennig gyda fi neu'r lleill. Mae cyfraniadau pawb yn bwysig, boed nhw'n weinyddwyr neu peidio. Ond taset ti'n ddod yn weinyddwr, basai rhai galluoedd defnyddiol gyda ti, e.e. dileu tudalennau neu blocio fandaliaid. Fasai'n dy gefnogi fy hun, oherwydd fy mod i'n hyderus faset ti'n defnyddio'r galluoedd yn ofalus a pheidio â'u camddefnyddio. Ond rhaid i ti ofyn yn y caffi. Dim ond y "biwrocratiaid" (sef Anatiomaros, Rhion, Deb) sydd â'r gallu technegol i greu gweinyddwyr ychwanegol. Mae rhagor o wybodaeth yma. Cofion cynnes, Alan 08:40, 13 Ionawr 2009 (UTC)Ateb

O.N. dwi ddim wedi bod yn "actif" iawn ar y wici yn ddiweddar. Felly os wyt ti'n gofyn yn y caffi, ond dwi ddim yn gweld y sgwrs amdano fy hunan, cei ddweud fy mod i'n dy gefnogi. Ond rhaid bod consensws cyffredinol rhwng pawb wrth gwrs. Alan 08:50, 13 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Llongyfarchiadau i ti, Rhys: rwyt ti'n weinyddwr rwan! Os oes gen ti unrhyw gwestiynau croeso i ti fy holi unrhyw bryd. Cofia ystyried yn ddwys cyn dileu tudalen (weithiau mae'n well ei hailgyfeirio, er enghraifft) a chofia hefyd, os wyt ti'n blocio rhywun, fod rhaid rhoi'r amser yn y blwch mewn Saesneg - e.e. "1 week" - am mai fel 'na mae'r meddalwedd yn gweithio, am ryw reswm. Hwyl, Anatiomaros 23:17, 24 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Llongyfarchiadau Rhys. Coblyn o gyfrifoldeb ar ysgwyddau ifanc ond cadarn. Ymlaen! (gyda geiriadur wrth dy benelin!!!) Llywelyn2000 23:18, 24 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Diolch yn fawr iawn i chi! Pob Hwyl. --Rhys 15:53, 25 Ionawr 2009 (UTC)Ateb

hawlfraint llun golygu

Hi Rhys,

Wyt ti wedi gweld beth a ysgrifennais i ar Wicipedia:Tudalennau_amheus#Delwedd:Photosynthesis.png?

Os wyt ti wedi cael caniatâd i ail-ddefnyddio'r llun, allet ti rhoi'r manylion os gweli di'n dda. Os nad wyt, dwi'n meddwl y bydd rhaid i ni ddileu'r llun. Diolch. Alan 14:25, 26 Ionawr 2009 (UTC)Ateb

Sori! Rwyf wedi dileu y llun ac amnewid am un arall. --Rhys 16:46, 26 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Diolch yn fawr. Mae dy lun newydd yn grêt! Alan 17:26, 26 Ionawr 2009 (UTC)Ateb

Byd Wici'n bownsio fel yr andros golygu

Sut goblyn gest ti'r Byd i fownsio fel 'na? Neu wyt ti wedi'i fenthyg? Mae'n edrych yn wych, ta beth! Llywelyn2000 20:52, 27 Ionawr 2009 (UTC)Ateb

Just dod ar ei ddraws rhywle yma. Sain cofio ble ond rwyn ei hoffi hefyd! Rhys 20:55, 27 Ionawr 2009 (UTC)Ateb

hinsawdd golygu

Diolch am greu'r erthygl am y pwnc pwysig hwn. Alan 12:52, 1 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

ton golygu

Rwy wedi ateb dy gwestiwn ar fy nhudalen sgwrs fy hun.

(A dweda i mi, ydy "ti" neu "chi" yn well gen ti? Rwy'n meddwl y dylwn ni ddau ddefnyddio'r un gair. Rwy'n gwybod dy fod di'n ieuencach na fi, ond serch hynny, rwy'n teimlo tipyn bach yn anghyfforddus i dy alw'n "ti" tra dy fod yn fy ngalw'n "chi".) Alan 19:33, 23 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

Roedd gennym ni drefn rhyfed iawn acw; yr arferiad oedd i ni blant alw mam yn "chi" a dad yn "ti". Dwn im pam, ond roedd hyn yn reit handi er mwyn gwahaniaethu! Llywelyn2000 23:17, 26 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
Tipyn bach yn secsist ;-) Alan 23:31, 26 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
Ha! Yn bedair oed? Ia, siwr ein bod! Yn ddiniwed secsist. Llywelyn2000 23:42, 26 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

ymyriant golygu

sori am 'na Rhys, dodd y gair "arosodiad" ddim yn 'y ngeriadur i - digwyddith hi ddim 'to! Hwyl Glanhawr 23:46, 25 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

Cyfrif golygu

Sut dylwn i wneud hynny? 82.20.7.205 22:37, 28 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

Mae'n dweud mewngofnodi ar ben fy nhudalen flaen ond dyw hi ddim yn dweud cofrestru. Ble ddylwn i wneud hyn? 82.20.7.205 23:31, 1 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Mae'n dweud yno "anfoner cyfrinair newydd ataf" yn unig. :S 82.20.7.205 00:28, 2 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
DARLLEN Y BOCS ISOD!
      Croeso!      

Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddionadur rhydd yn Gymraeg.

Am ragor o wybodaeth am gyfrannu at Wicipedia, cewch ddechrau gan ymweld â'r tudalennau cymorth canlynol:
Wicipedia:Croeso, newydd-ddyfodiaid a/neu Wicipedia:Cymorth. Croeso i chi ofyn cwestiynau yn y Caffi hefyd.

Fe obeithiwn ni y byddwch chi'n mwynhau cyfrannu yma.

Gyda llaw, fe wnaethoch chi eich golygiad(au) diweddar heb wedi mewngofnodi. Croeso i chi gyfrannu heb gyfrif, ond cewch greu cyfrif am ddim, ac mae cyfrif yn rhoi i chi nifer o fanteision.

Welcome. You can also ask questions in English in the café. You can get an account for free here.

Cofion cynnes, Rhys Thomas 23:49, 1 Mawrth 2009 (UTC)Ateb

Re: Ffiseg golygu

Dan ni wedi gwasgu chwe erthygl ffiseg heno 'ma - ddim yn wael am un noson o waith! Nos da! Glanhawr 23:45, 28 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

Dileu cyflymder golygu

Dwi'n credu dylwn ni ddileu'r erthygl cyflymder gan fod buanedd a chyflymder yn golygu'r un peth ac yn y rhan fwyaf o ieithoedd dim ond un erthygl am y ddwy sydd. Dwi wedi symud yr holl wybodaeth ddefnyddiol o'r erthygl cyflymder i buanedd. Wyt ti'n cytuno? Glanhawr 19:43, 1 Mawrth 2009 (UTC)Ateb

Allech chi ddileu'r erthygl cyflymder? - s'dim hawliau dileu gen i! Fe eglurwn ni'r wahaniaeth yn yr erthygl buanedd gyfredol wedyn i. Glanhawr 19:52, 1 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Redirects te fe wnewn ni! Glanhawr 19:53, 1 Mawrth 2009 (UTC)Ateb

Sgwrs Defnyddiwr:TorSch golygu

Uhhh...

I guess I should say thank you for welcoming me, however I cannot recall having been into the Welsh Wiki at all, unless maybe by mishap. Anyway, as I am a Norwegian citizen and not speaking or reading Welsh, I must apologize for addressing you in English. I am not able to contribute to your site. #8-D TorSch of no.wiki.

Don't worry. It must have been a mistake. We were notified that you were a new user?
Thank you anyway! Enjoy contributing to the Norwegian wikipedia :) Rhys Thomas 17:25, 3 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Rhys, mae llawer o'r enwau ar y rhestr defnyddwyr yn gyfrifon traws-wici gyda nifer o nhw heb gyfrannu yma o gwbl a dim yn debyg o wneud chwaith. I gael gwybod os ydyn nhw'n gyfranwyr neu beidio gelli di dapio ar 'Cyfraniadau'r defnyddiwr' ar ôl mynd i'w tudalen. Mae 'na gannoedd - miloedd efallai? - o gyfrifon fel hyn! Mond i ti gael gwybod ac arbed dy amser...  :-) Anatiomaros 17:57, 3 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Ah! Fi'n gweld! Ro ni'n meddwl bod na lot fawr o bobl yn creu cyfrifon yma!
Diolch Rhys Thomas 18:00, 3 Mawrth 2009 (UTC)Ateb

Rwyt ti'n creu stwff defnyddiol iawn ac yn torri tir newydd, gyfaill. golygu

Dim ond gair byr i ddweud fy mod yn gwerthfawrogi dy gyfraniad yn fawr. Mae gen ti erthyglau a fydd / sydd yn ddefnydiol iawn ac rwyt yn gwneud gwaith eithriadol o wych. (Don't forget your day-job, chwedl Geraint Jarman etc - cofia! Diolch. Llywelyn2000 18:12, 10 Mawrth 2009 (UTC)Ateb

Diolch am eich sylwadau! Mae eich cyfraniadau chi yn gret hefyd- rwyn edrych ymlaen yn fawr iawn i'r "prosiect tudalen hafan" cael ei gwblhau!! Mae yna lawer o blychau a cysylltiadau coch ar yr erthyglau gwyddoniaeth ac rwyf yma i'w lenwi nhw! Hwyl am y tro, Rhys Thomas 19:36, 10 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
Rhys: newidia di'r dudalen Hafan; mae'n eitha syml, fe weli pa rannau y gellir eu newid. Mi wna innau gynorthwyo. Dau beth sy'n fy nal yn ôl: 1. Mae twtio erthyglau yn bwysicach (yn fy marn bach i) a 2. Ar wahan i ti ac Anatiomaros doedd neb arall wedi ymateb. Gad i ni weithio'n araf, dros amser, ac efallai y cawn ymateb: cilogram o ysbrydoliaeth sydd angen ar y lle 'ma yn ddiweddar! Awn rhagom! Llywelyn2000 19:43, 10 Mawrth 2009 (UTC)Ateb

Dolenni rhyngwici (interwiki) golygu

Os wyt yn cyfieithu erthyglau o'r Saesneg (neu'n creu rhai gwreiddiol am bwnc sy'n debygol o fodoli ar Wici ieithioedd eraill), alli di roi dolen rhwngwici iddynt o.g.y.dd. Mae'n ei wneud yn haws i wirio pethau. Y ffordd hawsa o wendu hyn yw golgu'r erthygl yn Saesneg, copio'r côd ar y gwaelod a'i osod ar waelod yr ertygl Gymraeg. Mae botiau wedyn yn gosod dolen yn ôl at yr erthygl Gymraeg o'r erthyglau eraill i gyd yn awtomatig.--Ben Bore 11:56, 19 Mawrth 2009 (UTC)Ateb

Sori, ro'n ni'n bwriadu wneud hynnu neithiwr i'r erthyglau newydd daearyddol ond fe anghofiais! Diolch am y tip! Bydd hwna'n safio lot o waith! Rhys Thomas 19:18, 19 Mawrth 2009 (UTC)Ateb

Afiechyd a chlefyd golygu

Hi Rhys! Fe ailgyfeiriot ti afiechyd i glefyd ond mae yna wahaniaethau rhwng y ddau - gall afiechyd fod yn symptom o glefyd - ac mae llawer o ieithoedd yn gwahaniaethu rhwng y ddau. Felly beth ti'n meddwl yw'r peth gorau i wneud am hyn? Fe grëa'i erthygl "afiechyd" ar wahân os hoffet ti..? Hwyl. Glanhawr 17:03, 1 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

S'mae! Ye fi'n gwbod! Symudais yr erthygl clefyd i afiechyd yn gyntaf (afiechyd yw'r gair rwyn cyfarwydd efo!) ac yna wrth edrych yn y termiadur roeddwn yn anghywir felly symudais y dudalen nol i clefyd!!!- Gadawodd hyn ailgyfeiriad. Clefyd yw disease ac afiechyd yw illness ac felly mae'n lan i chi beth i wneud- rwyn brysur ar yr erthyglau cemeg heno! Cofion, Rhys Thomas 19:18, 1 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Dwi 'di dileu'r ail-gyfeiriad am nawr ac fe grëa'r eginyn yfori. Ydi 'na'n iawn? Hwyl am y tro. Glanhawr 00:03, 2 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Iawn :) Rhys Thomas 06:28, 2 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

86.141.132.32 golygu

Is an indef block on an IP really a good idea? Mike.lifeguard | @meta 21:51, 4 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

His words were i can vandalis and no-one will stop meeee!!!!
We really don't need people capable of this on the system. We have had many problems recently with vandals here! If you disagree- feel free to undo my changes :), Rhys Thomas 21:57, 4 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Well, it is your wiki, not mine. However, I would never place an indefinite block on an IP - they really must have an expiry. Furthermore, this guy is not always on that IP, so anything longer than, say, 2 weeks is probably not going to be effective. Mike.lifeguard | @meta 22:00, 4 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Okay, thanks for your advice. Diolch, Rhys Thomas 22:02, 4 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
I understand what you say, but support Rhys 100% for the indef block. A leopard never changes it's spots. Llywelyn2000 22:44, 4 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Thanks for the advice, Mike. I agree. Mae Mike yn iawn, Rhys. Cyfeiriad IP newidiol (dros dro) sy ganddo (BT) felly fel pawb arall yn ei sefyllfa mae'n cael cyfeiriad gwahanol - un o filoedd sydd ar gael - bob tro mae'n mynd ar y we. Tasa fo o rywle fel Seland Newydd basa bloc hir ddim yn debyg o effeithio ar neb, ond mae 'na siawns (eitha tena) i floc hir effeithio ar gyfranwyr o Gymru neu Loegr, gan ddibynnu lle mae'n byw. Mewn achos fel hyn mae bloc am ychydig o ddyddiau yn ddigon fel rheol. Os daw yn ôl - a gobeithio wneiff o ddim - bydd ganddo gyfeiriad dros dro arall. Tasa fo wedi creu cyfrif basai'n haeddu cael ei flocio am fyth, wrth gwrs. (Roeddwn i'n sgwennu hyn wrth i Lywelyn gyfrannu. Dwi'n anghytuno am y rhesymau uchod.) Anatiomaros 22:48, 4 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

Nodiadau trefi (ac eraill) golygu

Diolch am y nodiadau newydd a diwygio rhai o'r hen rai, Rhys, ond dwi wedi sylwi fod gwall. Mae'n ymddangos fod rhaid i enw'r nodyn matsio'r enw sydd yn y llinell "enw" yn y nodyn ei hun er mwyn gallu defnyddio'r dolenni "gweld", "sgwrs" a "golygu". E.e. ar hyn o bryd mae'r ddolen sydd i fod i arwain at Nodyn:Trefi Sir Gaerfyrddin yn mynd at dudalen wag dan yr enw "Nodyn:Trefi a phentrefi Sir Gaerfyrddin." Wnes i arbrofi trwy symud Nodyn:Mecanegcwantwm i Nodyn:Mecaneg cwantwm ac mae'n ymddangos fod hynny wedi datrys y broblem (dwi'n gobeithio!). Ond efallai fod ffordd arall i wneud o hefyd, dwi ddim yn gwybod ond mae'n bosibl. Anatiomaros 20:42, 8 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

Ah- fi'n gweld! Dwi di newid llinell "enw" nodyn:Trefi Sir Gaerfyrddin ac mae'r cysylltiadau "gweld", "sgwrs" a "golygu" yn gweithio erbyn hyn! Bydd rhaid i mi trwsio'r lleill nawr (dwi di blino gormod heno!). Diolch, Rhys Thomas 21:57, 8 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Diolch i ti am ddatrys hyn. Basai'n braf "uwchraddio" rhai o'r nodiadau eraill rhywbryd hefyd (yn dy amser dy hun, fesul un, os wyt ti'n teimlo fel wneud o, ac mi geisiaf helpu hefyd). Anatiomaros 19:33, 9 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Ro'n i jest moyn dweud diolch am greu'r nodyn ar gyfer Dinas Efrog Newydd. Mae'n edrych yn gret. Tries i greu un fy hunan ond dw i braidd yn araf yn dod i ddeall y pethau 'ma (!) felly mae'r nodyn ti wedi creu yn wych! Diolch i ti! Rhodri77 07:00, 18 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Diolch! Mae'r nodyn ei hyn yn sef nodyn:Dinas ar gyfer unrhyw dinas. Na gyd sydd angen gwneud yw copio'r darn top (y codau i gyd) o dop erthygl Dinas Efrog Newydd neu Llundain mewn i unrhyw erthygl dinas ac yna newid y data! Hwyl, Rhys Thomas 08:36, 18 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

Erthyglau newydd golygu

Braf gweld yr erthygl newydd Model trawsnewid demograffig‎, Rhys. Ond dwi'n gweld dy fod wedi rhoi hi yn y nodyn Erthyglau newydd. Doeddet ti ddim i wybod, ond mae gennym ni drefn (rhaid ei nodi rhywle rywbryd hefyd!) fod cyfranwyr ddim yn ychwanegu eu herthyglau eu hunain i'r rhestr. Fel arall basa pawb yn mynd ati a basai'n draed moch arnom ni! Fel rheol rydym ni'n gadael i Deb ddewis be sy'n mynd yno gan ei bod hi'n ddysgwraig ac felly dim yn medru cyfrannu erthyglau hir. Gobeithio dy fod yn cytuno fod y drefn yma yn degach i bawb (er yn anodd weithiau pan rwyt ti wedi treulio awr ar ethygl a hynny ddim yn cael ei dewis!) ac yn osgoi anhrefn, ac anghydfod efallai. Hwyl, Anatiomaros 19:31, 9 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

Sori- roeddwn ni ddim yn gwybod. Mae'r drefn yn swnion deg ac nai ddim gwneud o eto! Mae'n ddal gen i lawer i ddysgu yma! Pob hwyl, Rhys Thomas 19:43, 9 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Popeth yn iawn, Rhys. Dwi'n gwybod roeddet ti'n meddwl am y gorau a phaid â phoeni am ddysgu chwaith - dwi innau hefyd yn gwneud hynny o hyd wrth fynd ymlaen. Cofion, Anatiomaros 19:57, 9 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

Hawlfraint golygu

Mae'n braf gweld cymaint o erthyglau gwyddonol yma Rhys, ond wrth cael fy trosglwyddo yma o google, mae'n rhaid dweud ei fod e'n braidd yn sioc i weld rhai erthyglau (er enghraifft adwaith cildroadwy) ac yn enwedig rhai delweddau (er enghraifft Delwedd:Egni Adwaith.jpg) wedi eu cynnwys fel deunydd gwreiddiol pan maent wedi eu copïo o waith arall. Mae'r hawlfraint felly gyda'r awdur gwreiddiol, a gallai hwn creu problem ble rwyt ti wedi datgan " Fi, perchennog yr hawlfraint, ydwyf yn cyhoeddi'r gwaith hwn o dan y drwydded ganlynol.". Rwyt ti'n ffodus mae'r awdur ddim yn un i gwyno am drosglwyddo ei waith i ffurf electroneg, ond os wyt ti am eu dderbyn mewn ffurf electroneg rhag fod rhaid i ti eu hail-deipio gad wybod i mi. Myrddin1977 23:09, 13 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

Rhys - Diolch am dy ymateb.
Pan mae unrhywun yn creu gwaith a darluniau, yr awdur sy'n dal yr hawlfraint. Mae hwn yn wir am y gwaith os mae'n rhan o lyfr neu nodiadau ysgol. Paid a chymryd yn ganiataol mai'r person sy'n dysgu gwers gwnaeth ysgrifennu'r nodiadau - mae athrawon yn tueddu menthyg a rhannu nodiadau. Fi wnaeth ysgrifennu'r nodiadau yr wyt ti yn eu derbyn yn dy ysgol pan yr oeddwn i'n dysgu yna (a dy ddysgu ti hefyd....ond mae blwyddyn 8 a 9 yn teimlo fel degawdau yn ol yn awr). Wnes i gadael copiau electronig o'r nodiadau hyn i'r athrawon eraill eu defnyddio i addysgu ond nid yw hwn yn newid perchennog yr hawlfraint. Mae hawlfraint y nodiadau a'r darluniau felly yn eiddo i mi, a gobeithio dy fod yn awr yn glir pwy sy'n ysgrifennu hwn.
Nid ydwyf i'n pryderu am fy nghwaith i yn ymddangos yma, ac rwy'n digon hapus i ti ddefnyddio delweddau o'r nodiadau a rhannau o'r nodiadau eu hun. Ni ddylet ti cymryd yn ganiataol bydd pobl eraill yn ymateb yn yr un modd. Gwna'n siwr dy fod yn ofyn i awdur gwreiddiol unrhyw darn o waith cyn ei ddefnyddio yma, yn enwedig os wyt ti'n mynd i ddwneud mai ti yw'r awdur gwreiddiol wrth roi darlun ar y system i ddiogelu dy hun. Paid a phoeni fy mod i'n mynd i creu trwbl o ran hawlfraint, ond rydw i'n poeni gallai rhywun arall cwyno os wyt ti wedi ddefnyddio eu gwaith nhw.
O ran y nodiadau electronig - gan mai fi ysgrifennodd y nodiadau yn gwreiddiol, mae gennyf i'r nodiadau hyn ar ffurf ffeiliau 'word'. Os wyt ti am ddefnyddio fwy o'r nodiadau gofynna am y ffeiliau hyn yn hytrach na' chopio'r geiriau allan i roi ar y dudalen. Byddai hwn yn enwedig yn wir gyda darluniau, yn hytrach na sganio, er mwyn cael ansawdd well.
Myrddin1977 22:31, 14 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Diolch i ti Rhys am fod mor angerddol ynglyn â'r Gymraeg ac am wneud rhywbeth dros wyddoniaeth drwy'r Gymraeg, mae'n rhaid fod gen ti athrawon hynod o frwd ac ysgogus dros y blynyddoedd i dy danio mor ifanc. Rwyt ti wedi bod yn esiampl dda i bawb ohonom mewn sawl ffordd. Rwyt ti (a ninnau) wedi cael cyngor doeth hefyd gan Myrddin1977 a fedra i mond diolch i fynta am fod mor oddefol - ac am ei waith hefyd. Mae o wedi cyfrannu llawer yn y gorffennol, fel y gweli, ac efallai y bydd hyn yn ei danio yntau i ail-afael ynddi a chydweithio gyda thi. Diolch i'r ddau ohonoch. Mae gen innau fab yr un oed a thi, Rhys, ond chafodd o mo'r cyfle i wneud ei gwrs lefel A drwy gyfrwng y Gymraeg (er ei fod mewn ysgol Gymraeg!!!) felly mae o'n darllen eich gwaith Wicipedia ac yn mwynhau cymharu'r termau ayb ac yn gweld y gall ei famiaith gystadlu gyda'r Saesneg. Chafodd o ddim mo hynny yn yr ysgol, felly, diolch eich dau, ar ei ran. Llywelyn2000 23:06, 14 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Diolch i chi am eich sylwadau Llywelyn! Jyst i adael i chi wybod hefyd- Myrddin1977 oedd yn dysgu cemeg i mi yn blwyddyn 8 a 9! Rhys Thomas 23:22, 14 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Ro'n i'n deall hynny Rhys, o'i sylwadau ar ei TD. Llywelyn2000 14:24, 15 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

POB LWC EFO'R ARHOLIADAU YR HEN BEN! golygu

Mae na hen ben ar sgwyddau ifanc yn fanco - pob lwc i ti! Mi wnei di hedfan drwyddyn nhw! Llywelyn2000 22:49, 30 Ebrill 2009 (UTC) a phawb ar Wici.Ateb

Ie wir! Cer amdani a gwna dy orau... mae 'da ni gyd bob ffydd ynot ti!! Rhodri77 06:15, 1 Mai 2009 (UTC)Ateb
Diolch yn fawr i chi! Peidiwch a phoeni- byddaf yn dal i wneud rhai bits and bobs nawr ac yn y man- byddaf nol eto yn iawn yn Mehefin! Pob hwyl! Rhys Thomas 17:19, 1 Mai 2009 (UTC)Ateb

Delio â rwts ar dudalennau Sgwrs golygu

Hi Rhys, sut mae? Y peth hawsaf i'w wneud fel rheol efo rwts fel y testun ar Sgwrs:Pla Du ydy dileu'r dudalen (neu wrthdroi'r golygiad). Dyma'r ail dro rwan i rywbeth tebyg gael ei roi yma (wnes i ddileu'r un dwetha). Rhaid fod rhywun yn meddwl ei fod o'n ddoniol iawn...! Anatiomaros 20:10, 8 Mai 2009 (UTC)Ateb

Iawn- diolch am y cyngor. Mae'r holl fandaliaid yma yn boen! Hwyl, Rhys Thomas 20:13, 8 Mai 2009 (UTC)Ateb
Return to the user page of "Rhyshuw1/Archif 1".