Sgwrs MediaWici:Unwatch

Latest comment: 10 o flynyddoedd yn ôl by Cathfolant in topic Ddylid dileu'r neges hwn?

Cynnig diwygiad i'r neges:

Rhoi'r gorau i wylio

Neu:

Tynnu oddi ar fy rhestr gwylio

Lloffiwr 19:29, 19 Chwefror 2006 (UTC)Ateb

Oes rhywbeth mwy cryno i gael? Hwn yw'r testun sy'n mynd ar frig y dudalen y lle 'gwyliwch' pan fo'r dudalen eisoes ar y restr gwylio, felly mae'r uchod i weld yn rhy hir-wyntog i fi. (Gyda llaw, dwi'n meddwl y dylid newid 'gwyliwch' a 'symudwch' i 'gwylio' a 'symud' yn y cyd-destun yma, gan fod y geiriu eraill yn y ffurf 'golygu', 'diogelu', 'dileu'... cytuno?) Gareth 22:26, 19 Chwefror 2006 (UTC)Ateb
Gyda llaw..... - yn cytuno'n llwyr bod eisiau cael gwared ar y busnes galw 'chi' ar y cyfrifiadur. Bant â'r 'gwyliwch' a'i gymrodyr! Efallai dy fod wedi gweld fy sylwadau rhywle arall yn cynnig defnyddio'r ffurf 'gwylier' ond bydd y berfenw 'gwylio' yn cyfateb i 'golygu' etc a chyda gwefanau eraill Cymraeg - yn cytuno a dy awgrym.
Am y neges, beth am 'stopio gwylio'? (neu beth am 'cau llygaid'!). Mae rhai yn defnyddio 'atal' yn hytrach na 'stopio' ond mae ystyr atal yn gallu bod yn amwys gan ei fod yn gallu golygu 'prevent', 'obstruct'. Efallai y byddai 'ymatal rhag gwylio' yn gywir ond eto'n hirwyntog (ac efallai yn rhoi'r syniad ein bod yn ymatal rhag temptasiwn?!) Lloffiwr 17:21, 21 Chwefror 2006 (UTC)Ateb

Ddylid dileu'r neges hwn? golygu

Yr un fath a'r neges diofyn yw e. Cathfolant (sgwrs) 21:02, 29 Awst 2013 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Unwatch".