Sgwrs Nodyn:Blocipambyth

Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Xxglennxx in topic Enw'r erthygl

Enw'r erthygl golygu

Nage Blocio am byth yw e, ond Bloc IP am byth (IP Blocked Indefinitely yw'r nodyn Saesneg) :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:26, 16 Awst 2010 (UTC)Ateb

Wps. Dw i'n teimlo'n wirionach na'r arfer rwan!--Ben Bore 07:55, 17 Awst 2010 (UTC)Ateb
A fyddai modd cael yr IP mewn prif lythrennau? Darllenais i'r enw fel Blocio am byth hefyd, yn enwedig am fod o a p nesaf at ei gilydd ar y bysellfwrdd, mae'n edrych fel gwall teipio... Pwyll 10:08, 17 Awst 2010 (UTC)Ateb
Ar ôl ystyried, oni fyddai "am gyfnod amhenodol" yn well? Dyna'r term (Saesneg: "indefinite period") ar draws y Wici Mawr. Gallai perchennog y cyfeiriad IP newid rywbryd yn y dyfodol. Mae "am byth" yn swnio'n rhy debyg i Dragwyddoldeb: Amen. Fiat. Anatiomaros 15:22, 17 Awst 2010 (UTC)Ateb
Gallen ni ddefnyddio'r geirio 'na, ond dyma oedd Cymraeg naturiol ifi wrth sgwennu'r nodyn. Hefyd, bydd "Blocipamgyfnodamhenodol" yn ormod i'w gofio yn fy marn i. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:50, 17 Awst 2010 (UTC)Ateb

Defnyddio bloc am byth golygu

Dwi'n meddwl fod angen bod yn ofalus iawn cyn benderfynu blocio cyfeiriad IP am byth. Sefyllfa in extremis lle gellir profi fod y cyfeiriaid yn un a ddefnyddir gan un person/cyfrifiadur yn unig a bod hynny'n cael ei ddefnyddio am fandaliaeth eithafol yw'r unig achos i ddefnyddio hyn. Yn achos pobl fel "Bambifan101" does dim pwynt o gwbl am fod eu cyfeiriadau IP yn newid (mae bloc o 6 mis neu flwyddyn yn ddigon, a hynny dim ond achos eu bod yn UDA). Anatiomaros 22:46, 16 Awst 2010 (UTC)Ateb

Dwi'n cytuno. Mae'r nodyn hwn yma jyst rhag ofn :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 23:00, 16 Awst 2010 (UTC)Ateb
Roeddwn i'n pwyntio allan yr amlwg, efallai, ond dwi'n meddwl ei bod yn well nodi hynny yma beth bynnag. Fel rwyt ti'n deud, anaml y bydd hyn yn cael ei ddefnyddio, gobeithio... Anatiomaros 23:03, 16 Awst 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Blocipambyth".