Sgwrs Nodyn:Trefi Blaenau Gwent

Latest comment: 14 o flynyddoedd yn ôl by Xxglennxx in topic Chwe Chloch

Chwe Chloch golygu

Tynnais y ddolen goch hon o'r rhestr a hynny am na fedraf weld y lle ar y map na gweithio allan beth allai'r enw Seisnigiad fod (nid 'Six Bells') er mwyn cael hyd iddo. Chwiliais ar en (categoriau Blaenau Gwent) hefyd. Unrhyw syniad? Anatiomaros 15:23, 8 Mawrth 2010 (UTC)Ateb

Mae dolen yma. Xxglennxx 17:07, 8 Mawrth 2010 (UTC)Ateb
Ô.N. Mae enw'r lle bellach yn Saesneg yn unig (fel Oakdale, Caerffili), ond mae'r Llywodraeth a Blaenau Gwent ei hun yn defnyddio Chwe Chloch. Nid wyt ti'n mynd i ddod o'i hyd ar unrhyw fap yn Gymraeg, yn anffodus. Xxglennxx 17:09, 8 Mawrth 2010 (UTC)Ateb
Diolch Glenn. Dim rhyfedd fod dim byd ar y mapiau! Ar ôl sgwennu hynny (uchod) chwiliais ar wefan Enwau Cymru a chael nad ydyn nhw yn cynnig enw Cymraeg chwaith, dim ond 'Six Bells'. Hefyd, yn ôl Enwau Cymru mae'n rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Digon i ddrysu rhywun yn lân! Anatiomaros 17:19, 8 Mawrth 2010 (UTC)Ateb
Dim problem. Dwi'n aros i arwyddion "Six Bells" yn cael ei newid er mwyn cynnig y dwyieithrwydd o'r diwedd (dangos 'Six Bells' a 'Chwe Chloch,' oherwydd ar hyn o bryd dim ond 'Six Bells' i'w weld o gwmpas y lle i gyd!). Ie, mae'n hollol dwp - mae 'na siop yn Abertyleri sy'n dweud, "Abertillery, Monmouthshire."! Dyn ni heb fod yn rhaid o Sir Fynwy am oes! Ha. Roedd Mapiau Google yn dangos Bae Caerdydd yn "Cardiff Bay, Wales, England" cwbl o wythnosau'n ôl, ond nawr dwi'n methu dod o'i hyd! :) Xxglennxx 10:22, 9 Mawrth 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Trefi Blaenau Gwent".