Sgwrs Nodyn:Trefi Sir Gaerfyrddin

Latest comment: 14 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros in topic Enwau trefi a phentrefi

Enwau trefi a phentrefi golygu

(Copïwyd er gwybodaeth yn unig o Sgwrs:Sir Gaerfyrddin.)

Dwi wedi bod wrthi dros y dyddiau diwethaf yn mynd ar 'daith rithiol' o gwmpas y sir. Dwi wedi wynebu sawl problem wrth geisio penderfynu pa ffurf ar rao o enwau pentrefi niferus (iawn!) Sir Gâr sy'n safonol yn Gymraeg - dydy'r ffaith fod y mapiau yn tueddu i ddangos y ffurfiau Seisnigaidd ddim yn help chwaith. Un ffynhonnell yw argymhellion Canolfan Bedwyr (http://www.e-gymraeg.org/enwaucymru/chwilio.aspx), ond mae 'na fylchau sylweddol yno yn enwedig yn achos y pentrefi llai. Rwan dwi newydd taro ar restr ar wefan y Cyngor Sir sy'n nodi rhai amrywiadau ac yn nodi'r ffurf swyddogol (yn lleol, o leiaf) a ddefnyddir gan y Cyngor. Dyma'r dudalen: RHESTR ARGYMELLEDIG O ENWAU LLEOEDD.

Mae 'na ambell fwlch yno hefyd, achos bod nhw wedi methu penderfynu hyd yn hyn yn achos ambell enw, ond dwi'n meddwl basai'n gwneud synnwyr i ni fabwysiadu hyn fel ein ffynhonnell safonol. Mae'n amhosibl plesio pawb, wrth gwrs, ond o leia bydd ein dewis yn haws a llai agored i fod yn fympwyol. Hoffwn awgrymu ein bod yn gnweud yr un peth yn achos ardaloedd cyngor eraill, os oes rhestr dderbyniol ar gael (h.y. yn dilyn ymgynghoriad ac wedi'i mabwysiadu yn swyddogol gan y cyngor). Gellir nodi ffurfiau amrywiol o hyd, wrth gwrs. Anatiomaros 23:09, 14 Ionawr 2010 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Trefi Sir Gaerfyrddin".