Sgwrs Nodyn:Vocab

Latest comment: 14 o flynyddoedd yn ôl by Stanno

Diolch am ddechrau gweithio ar hyn, Rhys. Un broblem dwi'n gweld yma ydy fod hyn yn mynd a'r defnyddiwr allan o wicipedia i'r fersiwn ar gadw ar wefan BBC Vocab. Os dwi'n deall y system yn iawn (gweler y ddolen faq.) mae angen rhoi'r nodyn ar bob tudalen sy'n cael ei gynnwys er mwyn iddo weithio'n iawn (bydd detholiad yn ddigon am rwan; cawn ychwanegu wrth fynd ymlaen). Efallai bod angen o leia dau nodyn? Hyn, ar gyfer y blwch offer, ac un arall - {{Vocab-tudalen}} neu rywbeth - i'w roi ar y tudalennau? Dwi'n deud 'o leia dau' am fod y faq yn sôn am gopïo eu dau destun nhw, un i'w roi ar ben y dudalen a'r llall "yn y testun", chwedl nhw. Anatiomaros 19:36, 25 Mehefin 2009 (UTC)Ateb

Sai'n cweit yn siwr beth chi'n meddwl- mae hyn "a bit out of my league!" Os ydych yn edrych ar y dudalen hafan/vocab, mae'r cysylltiad yn gweithio ac mae'r defnyddiwr yn gallu pori holl gynnwys wicipedia efo'r vocab + cysylltiadau vocab yn gweithio. Os ydych am i'r nodyn weithio ar bob dudalen, gallai creu nodyn arall a newid yr url i [http://www.bbc.co.uk/apps/nr/vocab/cy-en/cy.wikipedia.org/wiki/{{PAGENAME}} Troi Ymlaen]. Mae'r byd o wikipedia dal i fod yn weddol newydd i mi!!! Rhys Thomas 19:54, 25 Mehefin 2009 (UTC)Ateb
Wel, er enghraifft, os ewch i dudalen ar Wicipedia trwy ddilyn y ddolen mi welwch 'mewngofnodi' yn y top (ond dwi wedi mewngofnodi yma...). Fel arbrawf, wnes i drio golygu tudalen. Mae'r dudalen yn agor yn iawn ond ar ôl rhoi testun i mewn a pwyso 'cadw' be gewch chi ydy'r tudalen wedi'i agor i'w golygu unwaith eto, ond heb eich testun newydd; dydy o ddim yn cadw. Y rheswm am hynny yw eich bod ar gopi BBC Vocab o'r Wici, wrth gwrs, fel sy'n amlwg o'r URL. Rwan, dwi'n derbyn - neu'n gobeithio - mai copi enghreifftiol ar wefan y BBC yw hynny, a bod y system yn gweithio yn wahanol o'i sefydlu yn iawn, h.y. gyda nodyn ar y tudalen. Anatiomaros 20:06, 25 Mehefin 2009 (UTC)Ateb
ON "For the sake of clarity to users, turning Vocab on in a non-BBC website means a footer is added to the page. As well as offering users another way to switch off Vocab, this gives credit to Vocab's producer and partner, for contractual reasons." Gweler BBC Vocab faq.. Anatiomaros 20:13, 25 Mehefin 2009 (UTC)Ateb
OON Dwi wedi trio arbrawf gan ychwanegu eu sgript i dudalen. Dydy o ddim yn gweithio - mae testun y sgript ei hun i'w gweld yn nhestun yr erthygl a dyna'r cwbl. Mae 'na gyfeiriad e-bost ar BBC Vocab faq. - basa'n syniad gofyn cymorth, efallai? Neu drio creu nodyn o'r ddwy sgript? Fel ti'n gweld, dwi ddim yn arbenigwr technegol (sori!) Anatiomaros 20:20, 25 Mehefin 2009 (UTC)Ateb
OOON(!) Dwi wedi sgwennu neges e-bost at y Bwrdd/Vocab yn gofyn cymorth (anwybyddais y cyfeiriad ymholiadau BBC Cymru ar y dudalen faq). Mae'n bosibl mai am nad ydym wedi derbyn y cynnig yn swyddogol mae hyn yn digwydd (gweler Vocab faq eto). Yn y cyfamser mae fy mhen yn dechrau troi...! Anatiomaros 20:49, 25 Mehefin 2009 (UTC)Ateb
Peidiwch a phoeni- mae fy mhen i'n dechrau troi wrth weld y codau yna! Sori os nad wyf wedi bod llawer o help- efallai bydd gan Llywelyn neu Deb datrysiad i'r broblem! Hwyl, Rhys Thomas 16:38, 26 Mehefin 2009 (UTC)Ateb
Diolch am geisio datrys hyn, Rhys. Dwi wedi sgwennu at Fwrdd yr Iaith a gofyn am gyngor technegol. Mae nhw wedi anfon y neges ymlaen i dechnegwyr BBC Vocab a gobeithio bydden nhw'n cysylltu â fi cyn bo hir. Yn y cyfamser does dim byd llawer fedrem ni wneud ond aros. Efallai nad yw'r sgript yn cael ei adnabod gan y meddalwedd wici a bydd angen ei haddasu? Wna'i bostio unrhyw ymateb yma a/neu yn '25,000 erthygl'. Hwyl, Anatiomaros 17:32, 26 Mehefin 2009 (UTC)Ateb

Helo. Dwi'n gweithio i BBC Cymru ac yn un o ddatblygwyr Vocab. Dwi'n hapus i ateb unrhyw gwestiynau technegol sydd gennych neu fod o unrhyw gymorth allai os fyddwch chi'n penderfynu defnyddio Vocab ar Wicipedia. Mi geisiai esbonio rhywfaint o sut mae'r teclyn yn gweithio yn gyntaf i ateb rhai o'r pwyntiau sy'n codi uchod. Mae'r linc engreifftiol yma yn pwyntio at y fersiwn byw, cywir o Vocab - dyna'n union fel bydd yn gweithio. Pan mae'r BBC yn son am ychwanegu côd i dudalennau Wicipedia er mwyn galluogi Vocab, yr oll mae hynny'n golygu mewn gwirionedd yw ychwanegu linc i Vocab o'r tudalennau, er mwyn gwneud hi'n hwylus i bobl ei ddefnyddio o unrhywle yn y safle. Dyw'r linc yna ddim yn effeithio ar sut mae Vocab yn gweithio mewn gwirionedd - mi sylwch chi bod modd dilyn linciau i bobman yn Wicipedia o fan hyn heb neu gyda'r côd newydd ar gyfer y linc ar y dudalen yna. Pan fydd Vocab ymlaen, mae'n eistedd rhyngddoch chi â'r safle rych chi eisiau darllen, gan brosesu'r cynnwys ac ychwanegu'r geirfa ar y pryd. Nid oes unrhyw gopi o Wicipedia ar safle'r BBC - rydych chi'n gweld fersiwn byw o'r Wicipedia go iawn, ond wedi ei brosesu gan Vocab ar beiriannau'r BBC, felly mae'r URL yn cychwyn efo bbc.co.uk. Un canlyniad o hynny yw na fedrwch chi fewngofnodi i Wicipedia pan mae Vocab ymlaen, fel nodwyd uchod. Gwaharddwyd hynny yn fwriadol, oherwydd byddai'n golygu bod y wybodaeth bersonol am eich mewngofnod yn gorfod cael ei basio trwy beiriannau'r BBC - rhywbeth dwi'n siwr fyddai'n annymunol i ddefnyddwyr Wicipedia, ac hefyd yn hunllef i'r BBC o ran reolau gwarchod data ayyb. Felly rhaid mewngofnodi neu olygu tudalennau heb Vocab ymlaen. Gobeithio bod yr uchod yn gwneud synnwyr - croeso i chi bostio unrhyw gwestiynau pellach i fi yma neu yn uniongyrchol trwy fy nhudalen defnyddiwr. Edrych ymlaen i weld Vocab ar gael i ddarllenwyr Wicipedia! Stanno 12:07, 1 Gorffennaf 2009 (UTC)Ateb

Diolch am y wybodaeth, Stanno. Bydd rhai i ni weithio ar hyn. Os dwi'n deall yn iawn, felly, does dim rhaid cael y sgript - fel 'nodyn wici' neu fel arall - ar y dudalen ei hun felly? Mi fyddwch wedi sylwi, mae'n siwr, fod gennym ni dros 23,000 o dudalennau a does dim bwriad gen i na neb arall fynd ati i ychwanegu sgript neu nodyn i bob un ohonynt (gwaith misoedd?!). Ein gobaith oedd medru creu nodyn Vocab a rhoi dolen iddo yn y 'blwch offer' (ar y chwith yma...). Ydy hynny'n ymarferol? Mi sylwais nad oedd yn bosibl golygu gyda Vocab ymlaen hefyd, fel basa rhywun yn disgwyl dan yr amgylchiadau, ond doeddwn i ddim wedi sylweddoli y byddai Vocab yn cael ei prosesu trwy wefan y BBC yn y ffordd rydych chi'n ddisgrifio yma ar ôl ei osod yn iawn ar Wicipedia. Mae hynny yn fy mhoeni braidd am y gallai awgrymu i rywun, o ddarllen yr URL, fod Wicipedia yn "rhan" o'r BBC ac felly'n tanseilio ein hygrededd fel gwyddoniadur rhydd, annibynnol. Bydd rhaid i ni ystyried hynny yn ofalus achos mae bod yn rhydd o unrhyw gysylltiad o'r fath - waeth pa mor "niwtral" a derbyniol y bo'r sefydliad allanol ei hun, UNESCO er engraifft - yn un o egwyddorion crai'r Wikipedia cyfan y mae'r Wicipedia Cymraeg yn rhan ohono. Diolch eto, a chroeso i'r Wicipedia. Anatiomaros 19:41, 1 Gorffennaf 2009 (UTC)Ateb
Dydw i ddim yn gweld problem efo defnyddwyr yn cael mynediad i'r wicipedia trwy URL y BBC. Gallwn greu tudalen gwybodaeth efo canllawiau clir am sut mae'n gweithio a'r problemau sydd i gael. Gyda llaw- sain credu fydd unrhywun sydd eisiau golygu yma yn defnyddio vocab- dim ond dysgwyr sy;n darllen y cynnwys a fydd yn gwneud hynny. Yr unig broblem ydy golygu'r blwch offer- mae'n rhaid i ni ffeindio allan pwy oedd yn gyfrifol am greu'r dolenni Cymraeg yma nol yn 2003 pan sefydlwyd yr adran Gymraeg a sut mae modd golygu'r rhyngwyneb. Oes syniad gan rywun? Rhys Thomas 20:30, 1 Gorffennaf 2009 (UTC)Ateb
Fel Rhys, dw i'n meddwl byddai'n werth o hyd yn oed os yw'n creu rhai anhawsterau i ddefnyddiwr (ddim yn gallu mewngofnodi, golygu). Tra bod ambell i ddysgwr nad yw'n 100% rhugl eto wedi gwenud cyfraniadau hynod o wrthfawr yma, byddai'r mwyafrif llethol sy'n debygol o gymeryd mantais o opsiwn VOCAB ddim yn debygol o fod yn gyfrannwr eto. Creda i byddai cael rhyw disclaimer cryno, (ond clir ac amlwg) o dan y botwm yn egluro eich bod ar fin 'gadel' y Wicipedia (hyd yn oed os nad yw hynny 100% yn wir) yn rhesymol ynfy marn i. Mae'n ymddangos nad yw'r arbennigedd technegol gyda i yma i wybod yn iawn sut i wneud i hyn i gyd weithio o'n pen ni, felly oes eisiau mynd i ofyn i rai golygwyr/gweinyddwyr o'r Wikipedia/WikiMedia am gymorth?--Ben Bore 09:19, 2 Gorffennaf 2009 (UTC)Ateb
Codi pwynt "technegol" mewn ffordd oeddwn i, efallai, ond dwi'n dal i feddwl fod rhaid i ni fod yn ofalus yma am ddau reswm: 1. am fod hyn yn mynd â phobl "allan" o'r wicipedia fel y cyfryw, 2. am fod cydnabyddiaeth sy'n cynnwys logos y BBC, Llywodraeth Cymru a'r Bwrdd Iaith yn ymddangos ar waelod y ddalen ar ôl dewis Vocab (e.e. ar waelod y dudalen hon). Fel y dywedais, dwi'n meddwl fod hyn yn torri tir newydd yn hanes Sefydliad Wikipedia ei hun ac felly dwi ddim yn siwr am y canllawiau; dwi'n ofni tynnu nyth cacwn am ein pennau trwy ymholi yn "swyddogol" ar Fetawici hefyd... Dwi ddim yn gweld cymorth i'r broblem dechnegol go iawn yma chwaith: sut mae cael y sgript i weithio? Dwi wedi trio a dydy o ddim yn cael ei derbyn gan y meddalwedd. Bydd angen datrys hynny. Gofynnais i Deb os oedd hi'n gwybod am sut i newid y blychau ar y chwith; unwaith eto, dwi wedi chwilio yma ond does dim pwerau ychwanegol gan fiwrocrat/gweinyddwr sy'n gwneud gwahaniaeth (oni bai mod i wedi methu rhywbeth amlwg!). I orffen, dwi'n cytuno â Ben fod angen cael "disclaimer" o ryw fath i fynd efo'r dewis Vocab. Gobeithio bydd Stanno yn darllen hyn ac yn medru fod o gymorth hefyd. Anatiomaros 18:05, 2 Gorffennaf 2009 (UTC)Ateb
Yn amlwg dwi ddim yn arbenigwr ar ganllawiau ac arferion Wikipedia, ond yn bersonol dwi ddim yn gweld problem bod cynnwys Wicipedia yn ymddangos fel petae ar bbc.co.uk, gan fod hynny eisioes yn digwydd mewn sawl man, yn hollol agored ac yn hollol dderbyniol oherwydd trwydded y cynnwys (er dwi'n derbyn bod Vocab ychydig yn wahanol). Dwi ddim yn meddwl bod hynny'n amharau ar niwtralrwydd Wikipedia, ac yn sicr nid oes unrhyw dymuniad gan y BBC i awgrymu hynny chwaith. Fel ry'ch chi wedi nodi hefyd, mae Vocab yn gosod ymwadiad ar waelod y dudalen - bwriadwyd hynny i weithio ddwy ffordd, hy. dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys Wicipedia, a dyw Wicipedia ddim yn gyfrifol am y ffaith bod y BBC yn arddangos eu cynnwys drwy Vocab chwaith - er mwyn pwysleisio bod y gwefannau yn annibynnol o'i gilydd. Gallwn edrych ar gryfhau neu newid yr ymwadiad yna i'w wneud yn gliriach o bosib os fyddai hynny o help? (gan gofio bod rhaid iddo fod yn addas i bob safle mae Vocab yn ymddangos arni, nid dim ond Wicipedia). O ran gosod y blwch, dwi ddim yn gwybod digon am sut mae MediaWiki yn gweithio i helpu ryw lawer yn fanna sori, ond falle i mi or-symleiddio drwy ddweud mai dim ond linc oedd angen - mewn gwirionedd mae dal angen cynnwys côd y BBC i greu'r linc yna, er mwyn adeiladu'r URL yn gywir ar gyfer pob tudalen. Dwi'n tybio hefyd eu bod nhw'n dymuno i chi ddefnyddio'r graffeg a gyflenwyd. Byddai'n gret petae modd cynnwys y linc ar bob dudalen rhywsut (heb orfod ychwanegu yn unigol i bob erthygl yn amlwg!) oherwydd fydden i'n dychmygu bod y rhan fwya o bobl yn dod i Wicipedia drwy beiriannau chwilio, yn syth at erthyglau penodol - felly nifer ddim yn mynd i weld y botwm os yw ar yr hafan yn unig. Mewngofnodi/golygu: dwi'n meddwl falle bydd modd newid Vocab pen yma i ddiffodd ei hun yn otomatig os geisiwch chi fewngofnodi neu olygu erthygl, gan osgoi dryswch. Rhowch wybod os hoffech chi i fi ymchwilio i hynny ymhellach. Hwyl, Stanno 10:47, 3 Gorffennaf 2009 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Vocab".