Sgwrs Wicipedia:Eich erthygl gyntaf
Sylw diweddaraf: 14 o flynyddoedd yn ôl gan Anatiomaros ym mhwnc Cofrestru
Cofrestru
golyguDau gwestiwn ynglŷn â'r datganiad hwn: "Mae'n rhaid ichi gofrestru cyn creu erthygl newydd. Gall defnyddwyr anghofrestredig (anhysbys) holi am erthyglau newydd yn yr adran Erthyglau i'w Creu" (cyfieithwyd o 'en'):
- Ers pryd mai hyn yn bolisi ar y Wici S.? Dwi ddim yn cofio clywed amdano o'r blaen a dwi wedi gweld nifer o erthyglau ar 'en' sydd wedi cael eu creu yn wreiddiol gan gyfranwyr IP (yn y gorffennol, o leia - dwi ddim yno yn aml rwan).
- Oes gennym ni bolisi tebyg? Unwaith eto dwi ddim yn cofio gweld un. Er ei bod yn ddymunol fod rhywun yn creu cyfrif yn gyntaf, dwi'n meddwl nad yw'r rheol ?newydd ar 'en' yn gwneud synnwyr yma gan fod gwir angen erthyglau arnom ni. Os ydy rhywun eisiau aros yn anhysbys (mewn gwirionedd mae nhw'n llai anhysbys gyda'u cyfeiriad IP yn dangos, ond ta waeth!) mae i fyny iddyn nhw, er y buasai'n braf cael nhw'n aelodau llawn o'r gymuned, fel petai. Dwi ddim eisiau i ni wneud unrhyw beth sy'n mynd i atal pobl rhag cyfrannu. Os rwts a geir mae'n ddigon hawdd dileu hynny a/neu blocio'r IP, ond beth os ydy rhywun heb gyfrif yn troi i fyny ac yn creu erthygl dda? Does posibl y byddem yn ei dileu am fod hynny yn erbyn y rheolau?
Credaf fod hyn yn rhywbeth i'w drafod. Dwi'n awgrymu newid "Mae'n rhaid ichi gofrestru cyn creu erthygl newydd" i "Awgrymwn eich bod yn cofrestru [angen dolen yma] cyn creu erthygl newydd." Anatiomaros 22:45, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)
- Dwi'n cytuno'n llwyr. Glanhawr 22:57, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)
- A finnau. Creais yr erthygl gan drosglwyddo cynnwys o en, ac dwi'n cytuno - dwi wedi gweld pobl anhysbys creu erthyglau yno hefyd, yn ogystal a fan hyn. Dwi'n hoff o dy awgrymiad, Anatiomaros, a dyn ni'n gallu defnyddio cod o Nodyn:Croeso i gael [y ddolen] os angen. -- Xxglennxx ★sgwrscyfraniadau★ 23:57, 4 Gorffennaf 2010 (UTC)
- Gan fod cytundeb, mae'n ymddangos, dwi wedi newid y testun i "Awgrymwn eich bod yn cofrestru". Anatiomaros 15:06, 5 Gorffennaf 2010 (UTC)