Seiclwraig rasio BMX a trac Seisnig ydy Shanaze Reade (ganwyd 23 Medi 1988). Mae eu champau ar lefel Iau (odan 18) yn cynnwys tri teitl pencampwr y byd, wyth teitl ewropeaidd a pump Pencampwriaeth BMX Prydain. Yn mis Gorffennaf 2007, daeth Reade yn Bencampwr BMX y Byd, merched hyn. Mae'n debygol y bydd hi'n cystadlu yng Ngemau Olympaidd 2008.

Shanaze Reade
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnShanaze Danielle Reade
LlysenwSpeady Ready
Dyddiad geni (1988-09-23) 23 Medi 1988 (35 oed)
Manylion timau
DisgyblaethTrac & BMX
RôlReidiwr
Prif gampau
Pencampwr y Byd x3
Golygwyd ddiwethaf ar
30 Mawrth 2008

Cystadleuodd ym Mhencampwriaeth y Byd am y tro cyntaf ar y trac yn 2007,[1] ac enillodd y Sbrint Tîm ar y cyd gyda Victoria Pendleton.[2] Ail-adroddodd y gamp yn 2008.

Canlyniadau golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni Allanol golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.