Awdures o Ganada yw'r athro Sheena S. Iyengar (ganwyd 29 Tachwedd 1969) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur, academydd a seicolegydd.[1][2][3][4][5]

Sheena Iyengar
Ganwyd29 Tachwedd 1969 Edit this on Wikidata
Toronto Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Canada Canada
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, academydd, seicolegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Ysgol Fusnes Columbia Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Arlywyddol i rai ar ddechrau eu gyrfa: Gwyddoniaeth a Thechnoleg Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://sheenaiyengar.com/ Edit this on Wikidata

Yn 2019 roedd yn athro-prifysgol yn Adran Rheoli Ysgol Fusnes Columbia. Ei harbenigedd yw sut a pham mae pobl yn dewis nwyddau a phethau eraill, beth sy'n effeithio o fewn y penderfyniad i fynd am un gwrthrych yn hytrach nag un arall. Cyflwynodd sawl darlith TED ar hyn ac mae'n awdur y llyfr The Art of Choosing (2010).[6][7][8]

Fe'i ganed yn Toronto ar 29 Tachwedd 1969. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Stanford a Choleg Wharton.[9]

Magwareth golygu

Ganwyd Iyengar yn Toronto, Ontario, Canada, yn blentyn i fewnfudwyr Sikhaidd o Delhi, India. Pan oedd yn blentyn, cafodd ddiagnosis o fath prin o retinitis pigmentosa, afiechyd etifeddol, gyda'r retina, yn y llygad, yn dirywio. Erbyn roedd yn naw oed, ni allai ddarllen mwyach. Pan oedd yn un ar bymtheg oed, roedd hi bron yn hollol ddall, er ei bod hi'n gallu gweld golau. Mae hi'n parhau i fod yn ddall fel oedolyn.[5]

Bu farw tad Iyengar o drawiad ar y galon pan oedd yn dair ar ddeg oed. Newidiodd hyn amgylchiadau'r teulu yn sylweddol, gan ysgogi mam Iyengar i'w llywio tuag at addysg uwch a bod yn hunangynhaliol, gan ddweud wrth Iyengar: “Dwi ddim eisiau clywed am ddynion neu fechgyn, mae'n rhaid i ti sefyll ar draed dy hun."[10]

Coleg golygu

Yn 1992, graddiodd o Brifysgol Pennsylvania gyda gradd B.S. mewn economeg o Ysgol Wharton a gradd B.A. mewn seicoleg o Goleg y Celfyddydau a Gwyddorau. Yna enillodd ei Ph.D. mewn seicoleg gymdeithasol o Brifysgol Stanford ym 1997. [11][12]

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Arlywyddol i rai ar ddechrau eu gyrfa: Gwyddoniaeth a Thechnoleg (2001)[13] .

Cyfeiriadau golygu

  1. "Mount Holyoke Biography -- Sheena S. Iyengar". Mount Holyoke. Mount Holyoke College. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mai 2018. Cyrchwyd 10 Mai 2018.
  2. "Sheena S. Iyengar -- Columbia Business School Directory". Columbia Business School. Columbia University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 24 Rhagfyr 2017.
  3. "Five Questions on Choosing for ... Sheena Iyengar". Graduate Management News. Graduate Management Admission Council. Mai 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Medi 2016. Cyrchwyd 3 Medi 2016.
  4. "Sheena Iyengar 2011 Ranked Thinker #48". Thinkers50. Thinkers50 Limited. 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mehefin 2017. Cyrchwyd 24 Mehefin 2017.
  5. 5.0 5.1 Fensom, Michael (26 Mawrth 2018). "Take 5: Sheena Iyengar, author and expert on choice". Inside Jersey Magazine. New Jersey On-Line LLC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mai 2018. Cyrchwyd 10 Mai 2018.
  6. Carter, Andrea (22 Hydref 2012). "Take 5: Sheena Iyengar, author and expert on choice". Poets & Quants. Poets & Quants, Inc. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-10. Cyrchwyd 10 Mai 2018.
  7. "Sheena Iyengar, Psycho-economist". TED. TED. 22 Hydref 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Mawrth 2018. Cyrchwyd 7 Mawrth 2018.
  8. Iyengar, Sheena (Mawrth 2011) [First published 2010]. The Art of Choosing. New York, NY, USA: Twelve. ISBN 978-0-446-50411-9.
  9. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014
  10. McHugh, Fionnuala (26 Mai 2016). "Professor Sheena Iyengar on choice that changed her life". South China Morning Post. South China Morning Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2017.
  11. Anrhydeddau: https://www.nsf.gov/awards/PECASE/recip_details.jsp?pecase_id=114.
  12. "Sheena Iyengar, S.T. Lee Professor of Business: Curriculum Vitae" (PDF). Columbia Business School. Columbia University. 7 Ionawr 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 28 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2017.
  13. https://www.nsf.gov/awards/PECASE/recip_details.jsp?pecase_id=114.