Pentref mawr yn Surrey, De-ddwyrain Lloegr, ydy Shepperton.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Spelthorne. Saif ar lan ogleddol Afon Tafwys rhwng Staines-upon-Thames i'r gorllewin a Sunbury-on-Thames i'r dwyrain; mae'n wynebu Walton-on-Thames ar lan ddeheuol. Yn hanesyddol roedd yn rhan o sir Middlesex, ond fe'i trosglwyddwyd i Surrey ym 1965.

Shepperton
Mathtref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Spelthorne
Daearyddiaeth
SirSurrey
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd6.98 km² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Tafwys Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLaleham Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.3958°N 0.4489°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ080672 Edit this on Wikidata
Cod postTW17 Edit this on Wikidata
Map

Lleolir Stiwdios Shepperton, stiwdios ffilm a theledu enwog, ym mhentref Littleton tua 1 miltir (2 km) i'r gogledd.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 20 Gorffennar 2020
  Eginyn erthygl sydd uchod am Surrey. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato