Siôn Conwy
Llenor a noddwr beirdd o Sir Ddinbych yng ngogledd Cymru oedd Siôn Conwy neu Siôn Conwy III (c. 1546 - Rhagfyr 1606).[1] Roedd yn aelod o deulu'r Conwyaid, un o deuluoedd uchelwrol mawr y Gogledd, gyda phlasdy ym Motryddan, ger Rhuddlan. Ei dad oedd Siôn Conwy II, Aelod Seneddol Sir y Fflint.
Siôn Conwy | |
---|---|
Ganwyd | 1546 |
Bu farw | Rhagfyr 1606 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfieithydd, llenor |
Bywgraffiad
golyguYn uchelwr diwylliedig, roedd aelwyd Siôn Conwy yn agored i'r beirdd, a cheir cerddi mawl iddo gan sawl un o Feirdd yr Uchelwyr, gan gynnwys Simwnt Fychan a Siôn Tudur.[2]
Cyfieithodd Siôn Conwy ddau draethawd i'r Gymraeg. Mae Klod Kerdd Dafod a'i Dechryad ("Clod Cerdd Dafod a'i Dechreuad") yn gyfieithiad o draethawd Lladin y Sais John Case, Apologia Musices (1588). Mae'r ail draethawd, Definiad i Hennadirion, yn gyfieithad o'r gwaith crefyddol A Summons for Sleepers (1589).[2]
Bu farw Siôn Conwy yn Rhagfyr 1606 a chafodd ei gladdu ar 23 Rhagfyr yn eglwys Rhuddlan.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Alfred Owen Hughes Jarman; Gwilym Rees Hughes (1976). A Guide to Welsh Literature: c.1530-1700 (yn Saesneg). C. Davies. t. 257. ISBN 978-0-7083-1400-5.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Enid Roberts, Gwaith Siôn Tudur, cyfrol II (Caerdydd, 1980), tud. 18.