Siôn Cwilt
Nid yw'r erthygl hon yn dyfynnu unrhyw ffynonellau. Helpwch wella'r erthygl hon drwy ychwanegu dyfyniadau i ffynonellau dibynadwy. Caiff cynnwys heb ei ddyfynnu ei herio, a gellir ei ddileu, o ganlyniad. Mae'r tag yma'n rhoi'r erthygl yma yn y categori Categori:Dim-ffynonellau. |
Smyglwr yng Ngheredigion yn y 18g oedd John White (neu Siôn Cwilt).
Daeth John White i fyw mew bwthyn bach o'r enw Sarnau Gwynion - rhwng Rhydeinon a'r Bannau Duon ym mhlwyf Llanarth tua chanol y 18g. Smyglwr oedd y gwr hwn, ac arferai sleifio gyda'i fulod dros y Bane i Gwmtydi gyfarfod a'r llongau a arferai ddod yno bob hyn a hyn a'u llwythi anghyfreithlon. Roedd John White wedyn yn gwerthu'r nwyddau, gan gynnwys gwin i Syr Herbert Lloyd ym mhlas Ffynnon Bedr.
Enw
golyguYn ôl yr hanes roedd yn gwisgo dillad rhacsiog, ac yn clytio'r tyllau â darnau o frethyn o bob lliw. Ac yn fuan aethpwyd i'w alw gan y trigolion lleol yn Siôn Cwilt. Mae cofnod (ym Mhlwyf Llanina) o fab 'John Qwilt' yn cael ei fedyddio yn 1758.
Banc Siôn Cwilt
golyguDaeth yr awdurdodau i wybod am weithredoedd yr hen smyglar a bu'n rhaid iddo ddianc o'r Banc rhag ofn iddo gael ei garcharu. Fe wnaeth hynny un bore gan adael llond bwthyn o boteli gwin ar ei ôl. O ganlyniad i hyn oll, newidiwyd Banc Cwm Einion yn Fanc Sion Cwilt. A dyna'r enw hyd heddiw ar y cnwcyn cul sy'n rhedeg ar draws gwlad i'r gogledd o bentrefi Llanarth a Synod - o Groesffordd Rhydeinon i Groesffordd Mownt.