Siant / 'chant' pêl-droed

Mae siant pêl-droed neu siant teras yn gân neu'n siant a genir fel arfer mewn gemau pêl-droed cymdeithas gan gefnogwyr. Mae llafarganu pêl-droed yn fynegiant o hunaniaeth dorfol, a ddefnyddir amlaf gan gefnogwyr i fynegi eu balchder yn y tîm neu annog y tîm cartref, ac efallai y cânt eu canu i ddathlu chwaraewr neu reolwr penodol. Efallai y bydd ffans hefyd yn defnyddio siantiau pêl-droed i fychanu'r gwrthwynebwyr, ac mae llawer o gefnogwyr yn canu caneuon am 'rivals' y clwb, hyd yn oed pan nad ydyn nhw'n eu chwarae. Weithiau mae'r siantiau'n ymatebion i ddigwyddiadau ar y cae.

Ffans Boca Juniors yn llafarganu "El que no salta, se fue a la B" ar strydoedd Buenos Aires, enghraifft o siant sy'n bychanu'r gwrthwynebwyr cyson (River Plate)[1]

Gall siantiau pêl-droed fod yn syml, yn cynnwys ychydig o weiddi uchel neu adrodd, ond yn amlach maent yn llinellau byr o eiriau wedi eu canu ac weithiau'n ganeuon hirach. Fel arfer fe'u perfformir yn ailadroddus, weithiau gyda chlapio llaw yn cyfeilio, ond weithiau gallant fod yn fwy cywrain yn cynnwys offerynnau cerdd, propiau neu symudiadau wedi'u coreograffu. Maent yn aml yn addasiadau o ganeuon poblogaidd, gan ddefnyddio eu halawon fel sylfaen y siantiau, ond mae rhai yn wreiddiol.

Gwyddys bod siantiau pêl-droed wedi cael eu defnyddio gan gefnogwyr o ddiwedd y 19eg ganrif ymlaen, ond fe wnaethant ddatblygu i'r ffurfiau poblogaidd cyfredol yn y 1960au. Gall siantiau pêl-droed fod yn hanesyddol, gan ddyddio'n ôl mor gynnar â ffurfio'r clwb, yn cael eu canu gan nifer dros y blynyddoedd ac a ystyriwyd yr anthemau ar gyfer y clybiau hyn. Gallant hefyd fod yn boblogaidd am gyfnod cymharol fyr yn unig, gyda siantiau newydd yn cael eu creu a'u taflu'n gyson. Mae traddodiad siantiau pêl-droed yn amrywio o wlad i wlad a thîm i dîm, ond mae rhai siantiau yn gyffredin i lawer o glybiau ac yn boblogaidd yn rhyngwladol. Gellir ystyried siantiau pêl-droed yn un o'r ffynonellau olaf sy'n weddill o draddodiad caneuon gwerin llafar. [2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Los hinchas de Boca recibieron a River con el fantasma de la "B"". Clarin. 23 September 2018.
  2. Chris Roberts, Heavy Words Lightly Thrown: The Reason Behind Rhyme, Thorndike Press,2006 (ISBN 0-7862-8517-6)