Siarl VII, Ymerawdwr Glân Rhufeinig

Ymerawdwr Glân Rhufeinig
(Ailgyfeiriwyd o Siarl VII Albert)

Uchelwr o Dŷ Wittelsbach oedd Siarl VIII (Karl Albrecht; 6 Awst 169720 Ionawr 1745) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1742 i 1745 ac yn Etholydd Bafaria o 1726 i 1745.

Siarl VII, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Ganwyd6 Awst 1697 Edit this on Wikidata
Dinas Brwsel Edit this on Wikidata
Bu farw20 Ionawr 1745 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
München Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Glân Rhufeinig Edit this on Wikidata
PriodMaria Amalia o Awstria Edit this on Wikidata
LlinachTŷ Wittelsbach Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd y Cnu Aur Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ym Mrwsel yn yr Iseldiroedd Sbaenaidd, yn fab i Maximilian II, Etholydd Bafaria, a'i wraig Theresa Kunegunda Sobieska, a oedd yn ferch i Jan III Sobieski, brenin Gwlad Pwyl. Olynodd Siarl ei dad yn Etholydd Bafaria ym 1726. Er iddo gydnabod y Datganiad Pragmatig a oedd yn sicrhau hawl Maria Theresa, merch yr Ymerawdwr Siarl VI, i olynu ei thad, roedd yr Etholydd Siarl yn credu ei fod yn meddu ar hawl ei hun gan fod ei wraig yn ferch i'r Ymerawdwr Joseff I.[1]

Yn sgil marwolaeth Siarl VI ym 1740, ymunodd Siarl â'r cynghrair yn erbyn Maria Theresa yn ystod Rhyfel Olyniaeth Awstria (1740–48). Cydnabuwyd ei hawl gan Ffrainc a Phrwsia, a fe'i coronwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn Chwefror 1742. Dim ond tair blynedd oedd cyfnod ei deyrnasiad. Bu farw Siarl ym Mhalas Nymphenburg ym München yn 47 oed, a gwrthododd ei fab, Maximilian III Joseph, hawlio coron Awstria. Fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan Ffransis I, gŵr Maria Theresa.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Charles VII (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Ebrill 2020.
Rhagflaenydd:
Siarl VI
Ymerawdwr Glân Rhufeinig
17421745
Olynydd:
Ffransis I