Siwan M. Rosser
Darlithydd ac awdur o Sir y Fflint yw Siwan M. Rosser.[1]
Siwan M. Rosser | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
Bu'n astudio yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan gwblhau doethuriaeth yno ar faledi'r 18g. Cyhoeddodd ymdriniaeth flaengar â'r modd y portreëdir merched ym maledi'r 18g yn Y Ferch ym Myd y Faled yn 2005. Mae'n Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.[2]
Cyhoeddwyd y gyfrol Bardd Pengwern - Detholiad o Gerddi Jonathan Hughes, Llangollen gan Cyhoeddiadau Barddas yn 2007.
Mae hi hefyd yn arbenigo ar lenyddiaeth Gymraeg i blant a phobl ifainc. Cyhoeddodd Arolwg o'r maes i'r Cyngor Llyfrau yn 2017,[3] ac yn 2020 cyhoeddodd astudiaeth ar ddechreuadau llenyddiaeth plant yng Nghymru yn Darllen y Dychymyg: Creu Ystyron Newydd i Blant a Phlentyndod yn Llenyddiaeth y 19Ganrif
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "www.gwales.com - 1900437961". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.
- ↑ "Dr Siwan Rosser - Pobl". Prifysgol Caerdydd. Cyrchwyd 2021-03-10.
- ↑ Rosser, S.M. "Arolwg Llyfrau Plant a Phobl Ifanc (2017)". Cyngor Llyfrau Cymru. Cyrchwyd 2021-03-10.
Gwybodaeth o Gwales |
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Siwan M. Rosser ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith. |