Skopelos
Un o ynysoedd Gwlad Groeg yw Skopelos (Groeg: Σκόπελος). Mae'n un o ynysoedd y Sporades, i'r dwyrain o Skiathos, gyda phoblogaeth o 4,696 yn 2001
Math | ynys |
---|---|
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Nawddsant | Reginos |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Sporades |
Lleoliad | Môr Aegeaidd |
Sir | Bwrdeistref Skopelos |
Gwlad | Gwlad Groeg |
Arwynebedd | 96 km² |
Uwch y môr | 680 metr |
Gerllaw | Môr Aegeaidd |
Cyfesurynnau | 39.11667°N 23.7°E |
Cod post | 370 03 |
Y dref fwyaf yw tref Skopelos. Mae'r pentrefi yn cynnwys Glossa a Neo Klima (Elios). Y mynydd uchaf yw Mynydd Delphi (681 m).
Ym mytholeg Greog, sefydlwyd Skopelos gan Staphylos neu Staphylus ("grawnwin" mewn Groeg), un o feibion Dionysos ac Ariadne. Yng Ngroeg yr Henfyd, roedd yr ynys yn adnabyddus am ei gwin. Erbyn heddiw, mae'r economi yn dibynnu ar dwristiaeth.