Sleim yw cyfuniad o wahanol cemegion sydd yn creu gwrthych â gwead tebyg i rwber.

Sleim mewn pot.
Sleim gwyrdd

Hanes Sleim golygu

Dechreuodd y trend sleim gan gwmni o'r enw Mattel yn Gaeaf 1976. Roedd y sleim yn cael ei wneud gan eitemau nad oedd yn wenwynig, sef guar gum, dŵr a boracs.

Sut mae creu sleim? golygu

Mae sleim yn cael ei greu gan polyvinol aceate neu polyvinol alcohol Mae'r cynhwysion yma yn gallu cael eu gweld mewn cynhwysion glud neu fwgwd gwyneb. Mae'r sleim hefyd yn cael ei gynhyrchu, gan ddefnyddio boracs neu sodium tetrobate. Mae un llwy dê o foracs yn cael ei roi mewn 236ml o ddŵr poeth ac mae un llwy de o foracs yn cael ei roi mewn glud ac o ganlyniad i hyn mae'r sleim yn cael ei ffurfio.

Rysait sleim golygu

  • 1 llwy de o foracs
  • 236ml o ddŵr poeth
  • Glud (PVA)

Ychwanegu llwy de o foracs i’r dŵr, ac yna ychwanegu’r glud. Parhau i ychwanegu boracs tan fod y gwead yn drwchus. Mae yna lawer o wahanol ffurf o greu sleim, ond yr un mwyaf poblogaidd yw'r rysait uchod.