Glynwr yw sment a ddefnyddir yng ngwaith y saer maen i gyfuno defnyddiau eraill.

Gweithfa sment y cwmni Lafarge yn Contes, Ffrainc.

Yn y byd adeiladu ceir sment tanddwr neu hydrolig a sment an-hydrolig. Mae smentiau tanddwr yn caledu o ganlyniad i hydradiad, sef adweithiau cemegol sy'n annibynnol ar gynhwysiad dŵr y cymysgedd, hynny yw gallent caledu hyd yn oed o dan ddŵr. Nid yw smentiau an-hydrolig megis gypswm a phlastr yn gallu gwneud hyn ac felly mae'n rhaid eu cadw'n sych.

Gwneir concrit a morter trwy gymysgu sment â chydgasgliad o ddefnyddiau eraill.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: