Meddalwedd ac ap amlgyfrwng yw Snapchat ar gyfer teclunau symudol fel y tabled neu'r ffôn, meddalwedd a grëwyd gan Evan Spiegel, Bobby Murphy a Reggie Brown, cyn-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Stanford. Cafodd y feddalwedd ei datblygwyd gan Snap Inc., a adnabyddid yn wreiddiol fel Snapchat Inc. Pwrpas Snapchat yw danfon lluniau a negeseuon testun a sain i 3ydd person, am gyfnod byr yn unig.

Snapchat
Enghraifft o'r canlynolonline service provider, social media app, instant messaging client, ap ffôn, cymuned arlein Edit this on Wikidata
CrëwrEvan Spiegel, Bobby Murphy, Reggie Brown Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddiMedi 2011 Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluMedi 2011 Edit this on Wikidata
Genrerhannu delweddau, video sharing, social media Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint Edit this on Wikidata
RhagflaenyddZenly Edit this on Wikidata
Enw brodorolSnapchat Edit this on Wikidata
DosbarthyddApp Store, Google Play, Huawei AppGallery Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.snapchat.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y ddau fyfyriwr Brown a Spiegel a greodd y prototeip cyntaf, a alwyd yn "Picaboo", fel prosiect mewn dosbarth yn Stanford. Y syniad oedd creu ap ar gyfer hunlun, rhannu'r llun ac yna'i ddileu ar ôl cyfnod. Mae natur dros dro'r lluniau'n annog gwamalrwydd ac yn pwysleisio mwy ar y llif naturiol o ryngweithio yn hytrach na chadw ac archifo. Yn Ebrill 2011,  cyflwynodd Spiegel y prototeip terfynol er mwyn i'r dosbarth archwilio potensial gwaith fel y cynnyrch masnachol.

Daeth Murphy i mewn i'r prosiect er mwyn ysgrifennu'r cod terfynol a chyhoeddwyd y fersiwn gyntaf o Picaboo fel iOS yng Ngorffennaf 2011. Ail-lansiwyd yr ap ym Medi o dan yr enw "Snapchat".

"Snap" Snapchat ar ffôn

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu