System drafodaeth wasgaredig fyd-eang drwy gyfrifiaduron yw Usenet (/ˈjzˌnɛt/). Fe'i datblygwyd o bensaernïaeth rhwydwaith cyffredinol deialu UUCP. Lluniwyd y syniad gan Tom Truscott a Jim Ellis yn 1979, ac fe'i sefydlwyd yn 1980.[1]

Diagram o weinyddion a chleientiaid Usenet. Mae'r dotiau glas, gwyrdd a choch ar y gweinyddion yn cynrychioli grwpiau mae nhw'n gario. Mae'r saethau rhwng gweinyddion yn dangos cyfnewid grwpiau newyddion (porthiannau). Mae'r saethau rhwng cleientiaid a'r gweinyddion yn dangos fod defnyddwyr wedi eu tanysgrifio i grwpiau penodol ac yn darllen neu ddanfon erthyglau.

Mae defnyddwyr yn darllen a phostio negeseuon (a elwir yn erthyglau, a gyda'i gilydd yn newyddion) mewn un neu fwy o gategorïau neu grwpiau newyddion. Mae Usenet yn ymdebygu i system bwrdd bwletin (BBS) mewn sawl agwedd ac yn un o rhagflaenwyr y fforymau rhyngrwyd a ddefnyddir yn helaeth heddiw. Trefnir y trafodaethau mewn edefau, fel gyda fforymau gwe a BBS, er bod y negeseuon eu hunain yn cael eu storio yn ddilyniannol ar y gweinydd. Mae'r enw yn deillio o'r term "users network".[2][3]

Un gwahaniaeth sylfaenol rhwng BBS neu fforwm gwe a Usenet yw absenoldeb gweinydd canolog a rheolwr ymroddedig. Mae Usenet wedi ei wasgaru rhwng casgliad mawr o weinyddion sy'n storio a phasio negeseuon ymlaen rhwng ei gilydd gan ddefnyddio porthiannau newyddion. Nid oes un gweinydd canolog sydd yn rheoli'r system, a gall unrhyw weinydd ymuno neu adael y system. Gall defnyddwyr unigol bostio a darllen negeseuon drwy weinydd lleol a weithredir gan eu darparwr rhyngrwyd, prifysgol, cyflogwr, darparwr masnachol neu gan eu gweinydd ei hun.

Mae gan Usenet bwysigrwydd diwylliannol o bwys yn y byd rhwydweithio, am ei fod yn gyfrifol am nifer o gysyniadau a thermau megis "FAQ", "fflamio", a "spam" neu wedi poblogeiddio y termau hyn.[4]

Grwpiau Cymreig golygu

soc.culture.welsh golygu

Ffurfiwyd grŵp trafod Usenet ar 21 Mawrth 1995 o'r enw soc.culture.welsh, cyfoeswr soc.culture.celtic a soc.culture.british. Noda Siarter y grŵp hwn mai ei ddiben yw trafod materion sy'n ymwneud â Chymru, Cymry, y Gymraeg, ei diwylliant a'i hanes ydyw a bod croeso i ddefnyddwyr y grŵp bostio yn Gymraeg neu'n Saesneg.[5] Er bod y grwp yn dal yn bodoli, daeth y trafodaethau i ben oddeutu 1999.

wales.usenet golygu

Daeth soc.culture.welsh yn nodedig am ddadleuon ymfflamychol am y Gymraeg a defnydd y Gymraeg ar y grŵp gan arwain yn y pendraw at ffurfio hierarchaeth newydd ar Usenet ar ddiwedd y 1990au, sef wales.* . Ffurfiwyd pwyllgor i benderfynu ar siarter a pholisiau yr hierarchaeth a'r grwpiau i'w creu.

Roedd hwn yn cynnwys sawl grŵp trafod yn cynnwys wales.cymraeg yn benodol ar gyfer negeseuon yn y Gymraeg.[6] Yn y pen draw fe ddisodlwyd y cyfrwng yma gan wefannau trafod.

Rhestr o grwpiau gwreiddiol wales.* golygu

  • wales.usenet.announce (Cymedrolir)
  • wales.usenet.config
  • wales.adverts.general
  • wales.education.general
  • wales.history.general
  • wales.genealogy.general
  • wales.music.general
  • wales.politics.assembly
  • wales.politics.general
  • wales.sport.general
  • wales.sport.rugby-union
  • wales.test
  • wales.cymraeg
  • wales.talk

Cyfeiriadau golygu

  1. From Usenet to CoWebs: interacting with social information spaces, Christopher Lueg, Danyel Fisher, Springer (2003), ISBN 1-85233-532-7, ISBN 978-1-85233-532-8
  2. The jargon file v4.4.7, Jargon File Archive.
  3. Chapter 3 - The Social Forces Behind The Development of Usenet, Netizens Netbook by Ronda Hauben and Michael Hauben.
  4. "USENET Newsgroup Terms – SPAM". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-15. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. groups.google.com; Archifwyd 2013-08-02 yn Archive.is Roedd y Siarter lawn fel a ganlyn: The newsgroup soc.culture.welsh will be established for discussion of all matters relating to the land of Wales, its people, language and culture, and their histories. Discussion of Welsh communities abroad (regardless of the language they may use) and their experiences is also invited, and, in the absence of alternative forums, discussion related to other Brythonic cultures (e.g. Breton and Cornish) may be conducted here. Contributions in either English or Welsh will be equally welcome. Breton or Cornish may also be employed where appropriate. It is anticipated that a degree of cross-posting with soc.culture.celtic, soc.culture.british, rec.music.celtic, rec.travel.europe, and other groups is likely to occur. Contributors should ensure that cross-posted material is genuinely relevant to all groups, and be prepared to edit Newsgroups: and Followup-To: fields appropriately.
  6.  Usenet Cymru. Adalwyd ar 2 Mai 2018.