Sophia Crichton-Stuart, Ardalyddes Bute
(1809-1859)
Roedd Sophia Crichton-Stuart, Ardalyddes Bute (1 Chwefror 1809 – 28 Rhagfyr 1859), ganed Sophia Frederica Christina Rawdon-Hastings, yn ail wraig John Crichton-Stuart, 2il Ardalydd Bute, a mam John Crichton-Stuart, 3ydd Ardalydd Bute. Enwyd y Gerddi Sophia, yng Nghaerdydd, ar ôl yr Ardalyddes.[1]
Sophia Crichton-Stuart, Ardalyddes Bute | |
---|---|
Ganwyd | 1 Chwefror 1809 |
Bu farw | 28 Rhagfyr 1859 Caeredin |
Tad | Francis Rawdon-Hastings |
Mam | Flora Mure-Campbell |
Priod | John Crichton-Stuart, 2il ardalydd Bute |
Plant | John Crichton Stuart, 3ydd ardalydd Bute |
Merch Flora Campbell, 6th Iarlles Loudoun, a'i gŵr Francis Rawdon-Hastings, Iarll Moira, oedd Sophia. Priododd yr Ardalydd, fel ei ail wraig, ar 10 Ebrill 1845 yng Nghastell Loudoun, yr Alban.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dic Mortimer (15 Hydref 2014). Cardiff The Biography. Amberley Publishing Limited. t. 173. ISBN 978-1-4456-4251-2. (Saesneg)