Sophonisba Breckinridge
Ffeminist Americanaidd oedd Sophonisba Breckinridge (1 Ebrill 1866 - 30 Gorffennaf 1948) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfreithiwr, academydd a swffragét. Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill Ph.D. mewn gwyddoniaeth wleidyddol ac economeg yna'r Juris Doctor (doethur yn y gyfraith) cyntaf ym Mhrifysgol Chicago, a hi oedd y fenyw gyntaf i basio'r bar yn Kentucky. Yn 1933 anfonodd yr Arlywydd Roosevelt hi fel dirprwy i'r 7fed Gynhadledd Pan-Americanaidd yn Wrwgwái - gan ei gwneud hi'r fenyw gyntaf i gynrychioli llywodraeth yr UDA mewn cynhadledd ryngwladol. Arweiniodd y broses o greu'r radd a'r ddisgyblaeth academaidd ar gyfer gwaith cymdeithasol.
Sophonisba Breckinridge | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ebrill 1866 Lexington |
Bu farw | 30 Gorffennaf 1948 Chicago |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, academydd, gwyddonydd gwleidyddol, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, economegydd, llenor |
Cyflogwr | |
Tad | William Campbell Preston Breckinridge |
Mam | Issa Breckenridge |
Cafodd Sophonisba "Nisba" Preston Breckinridge ei geni yn Lexington, Kentucky ar 1 Ebrill 1866 a bu farw yn Chicago. Hi oedd ail blentyn allan o saith i Issa Desha Breckinridge, ail wraig y Col. William C.P. Breckinridge, aelod o'r Gyngres a hanai o Kentucky, golygydd a chyfreithiwr.
Coleg a gwaith
golyguMynychodd Goleg Wellesley ac Ysgol y Gyfraith Prifysgol Chicago. Yn bedair ar ddeg oed, aeth i Goleg Amaethyddol a Mecanyddol Kentucky (a elwir yn ddiweddarach yn Brifysgol Kentucky) pan agorodd i fenywod ym 1880. Ni chaniatawyd iddi fod yn raddedig gan ei bod yn ferch, ond astudiodd yno am bedair blynedd.[1][2][3]
Graddiodd Breckinridge o Goleg Wellesley yn 1888 a bu'n gweithio am ddwy flynedd fel athrawes ysgol uwchradd yn Washington, D.C., yn dysgu mathemateg. Teithiodd Ewrop am y ddwy flynedd nesaf gan ddychwelyd i Lexington ym 1892 pan fu farw ei mam yn sydyn. Astudiodd y system gyfreithiol yn swyddfa'i thad ac ym 1895 daeth y fenyw gyntaf i gael ei derbyn i'r bar yn Kentucky.
Gan mai ychydig o gleientiaid oedd yn fodlon llogi cyfreithiwr menywaidd, gadawodd Kentucky i fod yn ysgrifennydd i Marion Talbot, Deon y Menywod ym Mhrifysgol Chicago. Cofrestrodd fel myfyriwr gan raddio yn y diwedd gan dderbyn gradd Ph.M. yn 1897, a Ph.D. mewn gwyddoniaeth wleidyddol ac economeg ym 1901 o Brifysgol Chicago.
Awdur
golyguCyhoeddodd The Delinquent Child and the Home yn 1912, a edrychai'n benodol ar droseddau, canlyniadau, a chofnodion troseddol plant yn Chicago. Mae yna un ar ddeg o benodau sy'n esbonio astudiaeth a chanlyniadau disgwyliedig plant sy'n byw mewn gwahanol leoliadau yn y ddinas.
Rhai gweithiau eraill:
- The Wage-earning Woman and the State: a reply to Miss Minnie Bronson (1910)[4]
- Papers presented at the conferences held during the Chicago Child Welfare Exhibit, The Child in the City (New York, Amo Press, 1970 - reprint of the 1912 edition)
- Truancy and Non-Attendance in the Chicago Schools: a study of the social aspects of the compulsory education and child labor legislation of Illinois (1917)
- Madeline McDowell Breckinridge: a Leader in the New South. Chicago, Illinois: The University of Chicago Press, 1921.
- Family Welfare Work in the Metropolitan Community: selected case records (1924)
- Public Welfare Administration in the United States, select documents (1927)
- The Illinois adoption law and its administration (1928)
- The Family and the State, select documents (1934)
- The Ohio poor law and its administration ... and appendixes with selected decisions of the Ohio Supreme Court (1934)
- Public welfare administration, with special reference to the organization of state departments; outline and bibliography; supplementary to Public welfare administration in the United states: select documents (1934)*Social work and the courts; select statutes and judicial decisions (1934)
- The development of poor relief legislation in Kansas, by Grace A. Browning... and appendixes with court decisions edited by Sophonisba P. Breckinridge (1935)
- The Michigan poor law: its development and administration with special reference to state provision for medical care of the indigent / by Isabel Campbell Bruce and Edith Eickhoff, edited with an introductory note and selected court decisions by Sophonisba P. Breckinridge (1936)
- Indiana poor law; its development and administration, with special reference to the provisions of state care for the sick poor (1936)
- The Tenements of Chicago, 1908–1935 (New York: Arno Press, 1970; ailargraffiad o fersiwn 1936)
- The illegitimate child in Illinois, by Dorothy Frances Puttee ... and Mary Ruth Colby ... golygwyd gan Sophonisba P. Breckinridge (1937)
- State administration of child welfare in Illinois (1937)
- The Illinois poor law and its administration (1939)
- The Stepfather in the Family (1940)
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Gynghrair Ryngwladol Menywod dros Heddwch a Rhyddid am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Disgrifiwyd yn: https://documents.alexanderstreet.com/c/1009677121.
- ↑ Dyddiad geni: "Sophonisba Preston Breckinridge". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sophonisba Breckinridge". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sophonisba Preston Breckinridge". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sophonisba Breckinridge". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Sophonisba Preston Breckinridge". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sophonisba Breckinridge". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sophonisba Preston Breckinridge". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sophonisba Breckinridge". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ "Find in a library : The wage-earning woman and the state : a reply to Miss Minnie Bronson". www.worldcat.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-04-18.