SpynjBob Pantsgwâr (cymeriad)
Prif gymeriad o SpynjBob Pantsgwâr
SpynjBob Pantsgwâr (Saesneg: SpongeBob SquarePants) yw'r prif gymeriad yn y gyfres animeiddiedig SpynjBob Pantsgwâr. Mae'n adnabyddus am ei optimistiaeth a'i ymddygiad plentynnaidd.
Enghraifft o'r canlynol | anthropomorphic sea sponge, cymeriad animeiddiedig, animated television character, musical theatre character |
---|---|
Crëwr | Stephen Hillenburg |
Lliw/iau | melyn |
Deunydd | sponge |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn y gyfres, SpynjBob yw prif gogydd y Crancdy, bwyty byrgyr eiddo Mr Cranc yn nhref ffuglennol Pant y Bicini yn y Cefnfor Tawel. Mae'n byw mewn tŷ pîn-afal gyda'i falwen anwes Gari. Mae'n ffrind gorau yw Padrig Wlyb.
Yn fersiwn Saesneg gwreiddiol y gyfres, mae'n cael ei leisio gan Tom Kenny. Yn y dub Cymraeg, Dewi Rhys Williams sy'n ei leisio.
Mae SpynjBob wedi dod yn gymeriad cartŵn poblogaidd ledled y byd ymhlith plant ac oedolion. Mae'n cael ei ystyried yn eang fel un o'r cymeriadau animeiddiedig mwyaf erioed.