Ynys sy'n un o Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Stafa (Saesneg: Staffa). Daw'r enw o'r Hen Lychlynneg staf, "colofn". Ynys fechan ydyw, 200 medr o led a 600 medr o hyd, ac nid oes poblogaeth barhaol. Mae tua 10 km i'r gorllewin o ynys Muile.

Stafa
Mathynys Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Mewnol Heledd Edit this on Wikidata
LleoliadArgyll a Bute Edit this on Wikidata
SirArgyll a Bute Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd33 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr42 metr Edit this on Wikidata
GerllawSea of the Hebrides Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau56.4361°N 6.3403°W Edit this on Wikidata
Hyd0.6 cilometr Edit this on Wikidata
Rheolir ganYmddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethYmddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban Edit this on Wikidata

Mae'n gyrchfan boblogaith i dwristiaid yn yr haf oherwydd ei chlogwyni a'i hogofeydd. Yr enwocaf o'r rhain yw Ogof Fingal, yn ne yr ynys, sy'n 75 medr o hyd, 14 medr o led a 22 medr o uchder. Ymwelodd y cyfansoddwr Felix Mendelssohn a'r ynys yn 1829, a chafodd ei ysbrydoli i gyfansoddi ei ddarn Ogof Fingal.

Stafa

Gofalir yr ynys gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban ers 1986, ac mae’n Warchodfa Natur Genedlaethol ers 2001.[1]

Cyfeiriadau

golygu