Star Wars: The Force Awakens
Mae Star Wars: The Force Awakens (sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Star Wars: Episode VII – The Force Awakens) yn ffilm opera ofod epig Americanaidd a ryddhawyd yn 2015. Mae wedi'i chynhyrchu, ei chyd-ysgrifennu, a'i chyfarwyddo gan J. J. Abrams.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | ffilm nodwedd, ffilm 3D ![]() |
---|---|
Lliw/iau | lliw ![]() |
Gwlad | Unol Daleithiau America ![]() |
Iaith | Saesneg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 16 Rhagfyr 2015, 17 Rhagfyr 2015, 18 Rhagfyr 2015, 9 Ionawr 2016 ![]() |
Genre | ffilm wyddonias, ffilm antur, ffilm acsiwn, ffilm ffantasi, opera yn y gofod, ffilm ffuglen ddyfaliadol ![]() |
Cyfres | Star Wars, Star Wars sequel trilogy ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Star Wars: The Clone Wars ![]() |
Olynwyd gan | Rogue One ![]() |
Dyddiad y perff. 1af | 14 Rhagfyr 2015 ![]() |
Lleoliad y gwaith | Jakku, Takodana, Starkiller Base (Ilum), D'Qar, Ahch-To ![]() |
Hyd | 135 munud ![]() |
Cyfarwyddwr | J. J. Abrams ![]() |
Cynhyrchydd/wyr | J. J. Abrams, Kathleen Kennedy, Bryan Burk ![]() |
Cwmni cynhyrchu | Lucasfilm, Bad Robot Productions, Truenorth, Walt Disney Pictures, Walt Disney Studios Motion Pictures ![]() |
Cyfansoddwr | John Williams ![]() |
Dosbarthydd | Walt Disney Studios Motion Pictures, Fórum Hungary, The Walt Disney Company France, Netflix, Disney+ ![]() |
Iaith wreiddiol | Saesneg ![]() |
Sinematograffydd | Daniel Mindel ![]() |
Gwefan | http://www.starwars.com/the-force-awakens ![]() |
![]() |
Hon yw'r gyntaf o drioleg ddilyniant Star Wars a'r seithfed rhan yng nghyfres Star Wars, yn dilyn Return of the Jedi (1983). Mae'r ffilm yn cynnwys perfformiadau gan yr actorion Harrison Ford, Mark Hamill, Carrie Fisher, Adam Driver, Daisy Ridley, John Boyega, Oscar Isaac, Lupita Nyong'o, Andy Serkis, Domhnall Gleeson, Anthony Daniels, Peter Mayhew, a Max von Sydow. Fe'i cynhyrchwyd gan Lucasfilm Ltd. a chwmni cynhyrchu Abrams Bad Robot Productions, a The Force Awakens oedd y ffilm Star Wars gyntaf na chafodd unrhyw fewnbwn gan grewr y gyfres George Lucas.
Wedi'i gosod 30 mlynedd ar ôl Return of the Jedi, mae'r stori yn seiliedig ar ymdrechion Rey, Finn, a Poe Dameron i ddod o hyd i Luke Skywalker a'r frwydr rhwng y Resistance, sy'n cael ei harwain gan filwyr profiadol y Rebel Alliance, ar y naill ochr, a Kylo Ren a'r First Order, urdd sy'n olynu'r Galactic Empire, ar yr ochr arall.
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ 1.0 1.1 http://www.filmdienst.de/nc/kinokritiken/einzelansicht/star-wars-das-erwachen-der-macht,546638.html. dyddiad cyrchiad: 8 Chwefror 2016.