Teulu brenhinol ar orsedd yr Alban, ac yn ddiweddarach ar orsedd Lloegr hefyd, oedd y Stiwartiaid. Daw'r enw teuluol o swydd Uchel Stiward yr Alban, yr hwn oedd yn gyfrifol am weinyddu tŷ'r brenin. Daliwyd y swydd yng nghanol y 11g gan Walter fitz Alan (1090–1177). Mabwysiadodd ei ddisgynyddion "Stewart" fel enw'r teulu.

Stiwartiaid
Enghraifft o:brenhingyff, teyrnach Edit this on Wikidata
Rhan oClan Stewart Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1371 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysClan Stewart o Appin Edit this on Wikidata
Map
SylfaenyddRobert II, brenin yr Alban Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas yr Alban Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yr aelod cyntaf o'r teulu i esgyn i orsedd yr Alban oedd Robert II yn 1371. O'r dyddiad hwnnw ymlaen bu ei ddisgynyddion yn frenhinoedd a breninesau'r Alban, ac o 1603 Lloegr hefyd. Mabwysiadwyd y ffurf "Stuart", sillafiad Ffrangeg yr enw, gan Mari, brenhines yr Alban (teyrnasiad 1542–1567), a fagwyd yn Ffrainc.

Priododd James IV a Margaret Tudor, merch Harri VII, brenin Lloegr, ym 1503, gan gysylltu tai brenhinol yr Alban a Lloegr. Ar ôl i Elisabeth I, brenhines Lloegr, farw heb blant yn 1603, etifeddodd James VI o'r Alban orsedd Lloegr ac Iwerddon fel James I. Roedd y Stiwartiaid yn frenhinoedd a breninesau Prydain ac Iwerddon hyd farwolaeth y Frenhines Anne ym 1714, heblaw am gyfnod Gwerinlywodraeth Lloegr rhwng 1649 a 1660.

Ar ôl i'r teulu golli'r orsedd, parhaodd disgynyddion James II am sawl cenhedlaeth i honni hawl iddi. Roedd eu cefnogwyr yn cael eu hadnabod fel Jacobitiaid.

Llinach frenhinol y Stiwartiaid

golygu
Enw Esgyn i'r orsedd Hyd Llinach
Brenhinoedd a breninesau'r Alban
Robert II 22 Chwefror 1371 19 Ebrill 1390 Nai David II
Robert III 19 Ebrill 1390 4 Ebrill 1406 Mab Robert II
James I 4 Ebrill 1406 21 Chwefror 1437 Mab Robert III
James II 21 Chwefror 1437 3 Awst 1460 Mab James I
James III 3 Awst 1460 11 Mehefin 1488 Mab James II
James IV 11 Mehefin 1488 9 Medi 1513 Mab James III
James V 9 Medi 1513 14 Rhagfyr 1542 Mab James IV
Mari, brenhines yr Alban 14 Rhagfyr 1542 24 Gorffennaf 1567 Merch James V
James VI
= James I, brenin Lloegr ar ôl 24 Mawrth 1603
24 Gorffennaf 1567
27 Mawrth 1625 Mab Mari, brenhines yr Alban
Brenhinoedd a breninesau Lloegr a'r Alban
James I
= James VI o'r Alban
24 Mawrth 1603 27 Mawrth 1625 Gor-or-ŵyr Harri VII, brenin Lloegr
Charles I 27 Mawrth 1625 30 Ionawr 1649
(dienyddiwyd)
Mab James I
Charles II 30 Ionawr 1649 (de jure);
2 Mai 1660 (de facto)
6 Chwefror 1685 Mab Charles I. Gwaharddwyd gan y Senedd rhag cymryd yr orsedd yn ystod cyfnod Gwerinlywodraeth Lloegr (1649–60), ond fe'i derbyniwyd yn frenin yn 1660.
James II
= James VII o'r Alban
6 Chwefror 1685 11 Rhagfyr 1688 Mab Charles I, brawd Charles II. Cafodd ei ddiorseddu gan William III ar ôl y Chwyldro Gogoneddus. Bu farw yn 1701.
Mari II 13 Chwefror 1689 28 Rhagfyr 1694 Merch James II. Rheolodd ar y cyd â William III.
Anne 8 Mawrth 1702 1 Awst 1714 Merch James II, chwaer Mari II. A hithau heb blant, ar ôl iddi farw daeth brenhinllin y Stewartiaid i ben.