Strategaeth filwrol
Set o syniadau a weithredir gan sefydliadau milwrol i anelu at amcanion strategol yw strategaeth filwrol. Mae'n ymwneud â chynllunio a chynnal ymgyrchoedd milwrol, symud a lleoli lluoedd, a thwyllo'r gelyn. Ymhlith y strategwyr hanesyddol enwog yw Sun Tzu a Carl von Clausewitz.
Eginyn erthygl sydd uchod am luoedd milwrol neu wyddor filwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.