Streic Glowyr Cymru 1898
Anghydfod diwydiannol yn ne Cymeu oedd Streic Glowyr Cymru 1898. Dechreuodd fel ymgais gan y glowyr, dan arweiniaid William Abraham (Mabon) i gael gwared ar y system o amrywio eu cyflogau ar sail pris glo, y sliding scale. Clowyd y gweithwyr allan gan y cyflogwyr, a pharhaodd hyn am chwe mis. Yn y diwedd, bu raid iddynt ddychwelyd i'r gwaith heb lwyddo yn eu hamcan.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/61/Mabon_Cartoon_1898.jpg/220px-Mabon_Cartoon_1898.jpg)
Ystyrir y streic yma yn garreg filltir bwysig yn natblygiad undebaeth lafur yn ne Cymru. Sefydlwyd Ffederasiwn Glowyr De Cymru o ganlyniad i fethiant y streic.