Crwst o ddalennau teneuon o does o amgylch llenwad meddal yw strwdel[1] (Almaeneg: Strudel, sef trobwll) sydd yn tarddu o goginiaeth Canolbarth Ewrop. Gwneir fel rheol ar ffurf rhôl hir, yn aml wedi ei phlygu mewn siâp pedol neu dorch, ac wedi pobi câi'r strwdel ei dorri'n sleisiau er mwyn ei fwyta, naill ai yn boeth neu'n oer.[2]

Strwdel afalau.

Cymysgir blawd, wyau, ychydig o fenyn, a chymhareb uwch na'r arfer o ddŵr i wneud toes sidanaidd a ellir ei rolio neu dynnu'n denau iawn. Dodir y toes ar liain, gydag ychydig o flawd, ar fwrdd mawr er mwyn ei dynnu gyda'r dwylo, ac yn draddodiadol dywedir bod yn rhaid ei ymestyn cymaint fel bod modd darllen papur newydd trwyddi. Er mwyn troi'r toes yn rhôl hir, caiff ei frwsio gyda menyn toddi a thaenir briwsion bara arno cyn gosod y llenwad ar hyd ben y ddalen. Codir y lliain fel bo'r toes yn rholio i fyny ar ochr arall y bwrdd. Câi'r rholyn ei droi'n siâp droelleg, fel arfer, a rhoddir rhagor o fenyn toddi arno cyn ei roi yn y ffwrn i'w bobi.[2]

Esiampl nodweddiadol yw'r Apfelstrudel, sydd yn boblogaidd yn Awstria a'r Almaen, sydd yn cynnwys afalau ac weithiau rhesins. Mae llenwadau eraill yn cynnwys cnau Ffrengig mâl, hadau'r pabi gwyn wedi eu berwi, ceirios a sinamon, a chaws ceulaidd gyda sbeisys a melysyddion. Mae strwdel yn debyg i felysfwydydd eraill a wneir o grwst tenau megis ffilo sydd yn boblogaidd yn y Balcanau a'r Dwyrain Agos, er enghraifft baclafa.

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, "strudel".
  2. 2.0 2.1 Alan Davidson, The Oxford Companion to Food (Rhydychen: Oxford University Press, 2006), t. 783.