Sul Addysg
Diwrnod gweddi arbennig i bawb sy'n ymwneud ag unrhyw agwedd ar addysg a gynhelir yn y Deyrnas Unedig yw Sul Addysg. Fe'i cynhelir ar yr ail ddydd Sul ym mis Medi. Am rai blynyddoedd fe'i cynhaliwyd ar y nawfed dydd Sul cyn y Pasg; fodd bynnag, yn 2016 fe’i symudwyd i fis Medi i gyd-ddigwydd â dechrau’r flwyddyn ysgol. Fe'i trefnir ar sail eciwmenaidd gan wyth sefydliad Cristnogol.